Llogi Ni
Tu ôl i bob theatr mae cwsmeriaid a perfformiadau ac yn y Lyric yr ydym wrth ein bodd yn gweld pobl yn defnyddio ein theatr. Dyma pam bod ein termau llogi yn gystadleuol iawn ac yn hyblyg. Mae’r prif dŷ a'r stiwdio ar gael i'w llogi, ac rydym yn hyderus pan fyddwch yn gweld yr hyn y mae'r Lyric yn gallu cynnig i gwmnïau ei dewis.
Hysbysir llogwyr bod “argaeledd” yn un maen prawf yn unig wrth ystyried ceisiadau ar gyfer llogi gan sefydliadau a chwmnïau. Mae meini prawf eraill yn cynnwys:
Gwrthdrawiad a Chydbwyso Rhaglen: Er mwyn osgoi bod digwyddiadau tebyg yn ymddangos yn rhy agos i’w gilydd;
Achos Busnes: Yn seiliedig ar ffigyrau a chynhyrchiad incwm arfaethedig realistig;
Datblygiad Cynulleidfa: Apelio at gynulleidfaoedd presennol a grwpiau targed newydd;
Ffactorau Technegol a Ffisegol: Sicrwydd y gall cyfleusterau a staff y Lyric gwrdd ag anghenion y digwyddiad yn esmwyth;
Ymrwymiad i gefnogi’r arferion theatrau cynaliadwy: Ymrwymiad dangosadwy i arfer theartig cynaliadwy gwyrdd a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i bawb.
Gyda'i gilydd, cynllunir y ffioedd a meini prawf llogi i ddarparu datrysiad cost-effeithiol, addas i anghenion penodol eich cynhyrchiad. Efallai y bydd rhai taliadau’n daladwy ar gyfer ffioedd gweinyddol a/neu drafod a TAW. I wirio argaeledd ac i gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â’r Uned Raglenni ar 0345 226 3510 rhwng 10 y bore - 4.30 y pnawn.