Llogi Ni
Yn Theatrau Sir Gâr rydyn ni’n ymfalchïo yn ein perthnasau hirsefydlog â cwmnïau a llogwyr proffesiynol, amaturaidd lleol ymweliadol ac rydyn ni’n ymfalchïo hefyd yn ein cyfraniad at lwyddiant sawl cynhyrchiad dros y blynyddoedd. Rydyn ni’n credu’n gryf bod fframwaith cadarn o ‘bartneriaethau pobl’ contractiol ac ymarferol y tu ôl i bob perfformiad llwyddiannus, ar y cyd â theimlad cryf o gydweithrediad a chymorth sy’n seiliedig ar gyd-barch a nod cyffredin. Fel arfer mae’r cymysgedd creadigol hwn yn tynnu’r gorau o bob un ohonom gyda’r Awditoriwm, Stiwdio Stepni, Caffi-Bar Cwtsh a mannau cyntedd. Mae’r Ffwrnes yn darparu profiad theatrig unigryw a chofiadwy beth bynnag yw’r anghenion technegol a Blaen y Tŷ.
Hysbysir llogwyr bod “argaeledd” yn un maen prawf yn unig wrth ystyried ceisiadau ar gyfer llogi gan sefydliadau a chwmnïau. Mae meini prawf eraill yn cynnwys:
Gwrthdrawiad a Chydbwyso Rhaglen: Er mwyn osgoi bod digwyddiadau tebyg yn ymddangos yn rhy agos i’w gilydd.
Achos Busnes: Yn seiliedig ar ffigyrau a chynhyrchiad incwm arfaethedig realistig;
Datblygiad Cynulleidfa: Apelio at gynulleidfaoedd presennol a grwpiau targed newydd;
Ffactorau Technegol a Ffisegol: Sicrwydd y gall cyfleusterau a staff y Ffwrnes gwrdd ag anghenion y digwyddiad yn esmwyth;
Ymrwymiad i gefnogi’r arferion theatrau cynaliadwy: Ymrwymiad dangosadwy i arfer theatrig cynaliadwy gwyrdd a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i bawb.
Gyda'i gilydd, cynllunir y ffioedd a meini prawf llogi i ddarparu datrysiad cost-effeithiol, addas i anghenion penodol eich cynhyrchiad. Efallai y bydd rhai taliadau’n daladwy ar gyfer ffioedd gweinyddol a/neu drafod a TAW. I wirio argaeledd ac i gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â’r Uned Raglennu ar 0345 226 3510 rhwng 10yb - 4.30yh.