Lleoedd
Prif Awditoriwm
Cynlluniwyd y brif dŷ fel awditoriwm hyblyg sy’n gallu cyflwyno amrediad o gyflwyniadau a chynyrchiadau. Mae’r system seddau ôl-dynadwy llawn-hydrolig yn caniatáu i’r gofod gael ei aildrefnu i gyflwyno nifer o fformatau seddau gwahanol gan ddibynnu ar anghenion y perfformiad. Uwchben y llwyfan mae brigdwr uchder-llawn a moduraidd yn caniatáu inni gyflwyno cynyrchiadau proseniwm ar raddfa fawr. Beth bynnag sydd angen gan ofod yr awditoriwm, rydyn ni’n hyderus y gallwn eu gyflwyno.
Stiwdio Stepni
Mae Stiwdio Stepni, sy’n llai ac yn fwy clyd, yn cynnig cyfleusterau technegol a chyfluniadau seddau hyblyg. Yn addas iawn ar gyfer cynyrchiadau graddfa fach, adolygiadau a chlybiau jazz, ynghyd â dosbarthiadau dawns, darlleniadau llenyddiaeth, gweithdai ysgrifennu a chlybiau ffilm. Mae Stiwdio Stepni’n ychwanegiad perffaith i’r prif dŷ ar gyfer digwyddiadau llai mwy clyd.
Ffwrnes Fach
Mae hen gapel Seion wedi cael ei adnewyddu yn synhwyrus a’i drawsffurfio i ganolfan anturiaeth gymdeithasol gyfoes a bydd yn cael ei feddiannu gan nifer o anturiaethau, sefydliadau celfyddydol ac ymarferwyr sy’n hyrwyddo a defnyddio’r celfyddydau perfformio a’r cyfryngau fel offerynnau am newid cymdeithasol. Bydd y ganolfan yn llawn talent lleol, gyda’u diddordebau diwylliannol a chefndiroedd eang, sgiliau a’i dyhedau.
Gwahoddir Sefydliadau Diwylliannol a Mentrau Cymdeithasol i ystyried a gwneud cais ar gyfer Tenantiaethau Arweiniol (TA) yn un o 6 lle swyddfa fodern. Telerau ac amodau yn berthnasol.
Y Crochan
Mae'r Crochan yn lleoliad delfrydol ar gyfer perfformiadau bach a chynadlaeddau. Mae'r gofod yn hyblyg iawn a gall ddarparu ar gyfer nifer o fformatau gwahanol o arddull theatr draddodiadol, i gabaret. Mae gennym hefyd offer AV sydd wedi cael ei gynllunio i fod mor hawdd â phosib er mwyn i chi ganolbwyntio ar eich cyflwyniadau yn hytrach na ffwdanu am daflunyddion a cheblau. Os hoffech chi rhoi te, coffi neu bwffe, nid yw hyn yn broblem gan fod gennym opsiynau arlwyo mewnol ar gyfer bob achlysur.