Mynediad
Gwybodaeth am y Lleoliad
Mae'r Glowyr / Miners' yn theatr gartrefol yn hen sefydliad y glowyr gyda 144 o seddi. Mae'n adeilad hanesyddol gyda mynediad cyfyngedig.
Rydym wedi ymrwymo i wneud eich ymweliad mor gyfforddus a phleserus â phosibl, felly rhowch wybod i'n staff am eich gofynion ymlaen llaw.
BSL
Gweler ein fideo dehongledig BSL yn cyflwyno ein tri lleoliad yma.
Disgrifiad sain
Mae taith disgrifiad sain o'r Glowyr / Miners' ar gael yma.
Cyrraedd Yma
Mae'r Glowyr / Miners' wedi ei leoli ychydig oddi ar Stryd y Gwynt, y tu ôl i'r Clwb Cymdeithasol Lles a drws nesaf i Eglwys Sant Mihangel.
Y maes parcio agosaf yw Lôn Tir-y-Dail (SA18 3DN) sydd yn union y tu allan i'r theatr. Mae'n faes parcio talu ac arddangos rhwng 8am a 6pm (am ddim ar ôl 6pm) ac mae'n cynnwys nifer o lefydd parcio hygyrch.
Mae gorsaf fysiau Rhydaman ar Stryd y Coleg yng nghanol y dref ac mae tua 3 munud ar droed i'r theatr.
Mae gorsaf drenau'r dref ar Ffordd-Yr-Orsaf (SA18 2DD) a thua 3 munud o'r Glowyr / Miners' mewn car, a thua 15 munud ar droed.
Mae tri phrif lawr i'r adeilad. Nid oes gan yr un rhan o'r theatr fynediad gwastad a bydd angen i chi roi gwybod i ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad fel y gallwn eich cynghori a pharatoi ar gyfer eich ymweliad.
Archebu Tocynnau
Mae'r Swyddfa Docynnau ar agor rhwng 10am a 3pm o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn ar gyfer archebion ffôn yn unig. Gellir prynu tocynnau hefyd o Lyfrgell Rhydaman (3 Stryd y Gwynt) cliciwch yma am yr oriau agor.
Os hoffech chi archebu lle ar gyfer cadair olwyn neu docyn Hynt, cysylltwch â'r swyddfa docynnau drwy ffonio 0345 226 3510, neu gallwch anfon e-bost atom y tu allan i oriau agor y swyddfa docynnau: theatrau@sirgar.gov.uk
Hynt
Mae Theatr y Glowyr / Miners' yn aelod o Hynt.
Mae gan ddeiliaid cerdyn Hynt hawl i gael tocyn am ddim ar gyfer ei gynorthwyydd personol neu ei ofalwr wrth fynd i weld perfformiadau yn ein lleoliadau
Cliciwch yma i gael gwybod a ydych chi neu'r person rydych yn gofalu amdano yn gymwys i gael cerdyn neu cliciwch yma i wneud cais.
Perfformiadau Hygyrch
Cliciwch yma i bori drwy'r perfformiadau hygyrch sydd ar gael gennym.
Mannau a Seddi Hygyrch
Er bod ein hadeilad yn theatr brydferth Gradd II restredig, rydym yn ymwybodol y gallai ein lleoliad hanesyddol fod yn rhwystr i rai, gan ei gwneud yn anodd defnyddio rhai o'n gwasanaethau. Os oes gennych unrhyw anghenion o ran mynediad, cysylltwch â ni fel y gallwn helpu i hwyluso eich ymweliad.
Swyddfa Docynnau
Lleolir y swyddfa docynnau ar y llawr gwaelod. Ceir mynediad iddi drwy'r 3 gris yn y fynedfa flaen.
Mae ardal mesanîn ar yr ail lawr sydd ag ychydig o le i eistedd, a gellir cael mynediad i'r ardal hon drwy ddwy set o risiau.
Theatr
Lleolir y theatr ar y trydydd llawr a gellir cyrraedd y rhan hon drwy bedair set o risiau.
Mae seddi'r theatr ar wahanol haenau a gellir eu cyrraedd o gefn yr awditoriwm. Mae grisiau eithaf serth i lawr i'r gwahanol haenau ac i lefel y llawr.
Mae un lle ar gyfer defnyddiwr cadair olwyn ar gael yn yr awditoriwm, ar lefel y llawr (J15) yn yr awditoriwm, y gellir ond ei gyrraedd drwy ddefnyddio'r lifft.
Mae mynediad i'r lifft ar gyfer y theatr ar y trydydd llawr. Mae'r fynedfa ar gyfer y lifft yng nghefn yr adeilad (o fewn adeilad Gwasanaeth Ieuenctid y Stryd). Mae'r lifft ar lefel y theatr yn yr ardal gefn llwyfan a bydd angen i chi groesi'r llwyfan i gyrraedd y man eistedd. Rhowch wybod os ydych am ddefnyddio'r lifft a bydd aelod o staff yn eich cynorthwyo a'ch hebrwng i'r lifft ac i'r theatr.
Os ydych yn dymuno symud o'ch cadair olwyn i sedd theatr, mae hynny'n bosibilrwydd, ond mae'n rhaid eich bod yn gallu gadael y theatr heb gymorth mewn argyfwng, sy'n cynnwys pedair set o risiau. Os na allwch adael yr adeilad eich hun heb gadair olwyn, byddem yn argymell eich bod yn archebu lle ar gyfer cadair olwyn. Bydd ein tîm Swyddfa Docynnau yn trafod eich gofynion gyda chi ac yn rhoi sedd i chi yn y man mwyaf priodol (os bydd llefydd ar gael).
Cyfleusterau'r lleoliad
Bar a Chiosg
Nid oes gan y theatr far na chiosg pwrpasol, ond gwerthir detholiad o winoedd, cwrw, diodydd meddal, a melysion o'r swyddfa docynnau, sydd wedi'i lleoli ar y llawr gwaelod (ceir mynediad i'r rhan hon o'r theatr drwy rai grisiau). Gallwn ddod ag eitemau i gwsmeriaid yn eu seddi, naill ai cyn y sioe neu yn ystod yr egwyl, felly gofynnwch i aelod o staff a byddwn yn hapus i helpu.
Toiledau
Mae toiled dynion ar y llawr gwaelod gyferbyn â'r swyddfa docynnau, a thoiled menywod ar y lefel mesanîn ar y llawr cyntaf.
Mae toiled hygyrch ar yr ail lawr, wedi'i leoli yn yr ardal gefn llwyfan (ger ardal y lifft a'r ystafelloedd gwisgo).
Cŵn cymorth
Mae croeso i gŵn cymorth. Rhowch wybod i'r Swyddfa Docynnau wrth archebu'ch tocynnau a byddant yn eich helpu i ddod o hyd i'r sedd fwyaf addas. Gellir darparu powlenni o ddŵr ar gais.
Gwybodaeth Gadael mewn Argyfwng
Os bydd angen gadael yr adeilad mewn argyfwng, bydd larwm gweledol a chlywedol. Bydd ein tîm blaen tŷ yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut i adael yr adeilad, y mannau ymgynnull agosaf a'r ardaloedd lloches.
Llyfryn
Gellir darparu'r llyfryn mewn print bras ac mewn fformatau eraill ar gais. E-bostiwch: theatrau@sirgar.gov.uk