Where is Mrs Christie | Ffwrnes

Roedd Agatha Christie yn un o'r awduron ffuglen gyffrous gorau erioed ac yn sicr yr un mwyaf toreithog. Yn 1926, roedd hi yng nghanol dirgelwch oedd yr un mor anodd i'w ddatrys ag unrhyw un o'i straeon - cyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at un o'r chwiliadau mwyaf a helaethaf erioed gan yr heddlu. Cafodd ei char a oedd wedi bod mewn damwain ei ddarganfod yn Surrey. Roedd yr awdur enwog ar goll a thybiwyd ei bod yn farw gan lawer, am 11 diwrnod. Fodd bynnag, daethpwyd o hyd iddi yn y pen draw mewn gwesty moethus yn Harrogate. Honnodd bryd hynny, ac am weddill ei hoes, ei bod yn dioddef o amnesia ac yn cofio dim. Doedd y wasg na'r heddlu ddim yn ei chredu. 

Mae'r actores Liz Grand yn cyflwyno ei sioe un fenyw, 'Where Is Mrs Christie?' A oedd hi'n dioddef o amnesia? Ai ymgais i ddenu cyhoeddusrwydd oedd hyn? Neu a oedd yna gyfrinach dywyllach yn gysylltiedig â'r digwyddiad? Mewn arddull nodweddiadol gyffrous, bydd popeth yn cael ei ddatgelu.

Tocynnau | £16.50

Info Cyflym

  • Cwmni: On a Role
  • Categori: Drama
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni

Info Cyflym

  • Cwmni: On a Role
  • Categori: Drama
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni