Water Wars | Glowyr

"Beth sy'n gwneud i chi feddwl y bydden ni’n barod i farw o syched, fel y gallwch chi ddyfrio lawntiau gwyrdd Surbiton?" 

Roedd y penderfyniad gan ddinas Lerpwl i orfodi codi argae ar draws Afon Tryweryn yn y 1960au wedi ailddeffro'r awydd am hunanbenderfyniad yng Nghymru. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, gellid dadlau iddo arwain yn uniongyrchol at ddatganoli. Yn Water Wars, mae Lloegr yn heidio i Gymru er mwyn cymryd meddiant o'i hadnoddau a chynnal ei hecoleg ei hun. 

Mae Water Wars yn eco-ddrama bwerus a ffrwydrol sy'n dadlennu dyfodol dystopaidd agos, lle mae prinder dŵr ar draws y byd yn sbarduno gwrthdaro gwleidyddol a brad personol. Wrth i gymunedau gael eu chwalu gan adnoddau prinnach, mae'r ddrama'n cwestiynu blaenoriaethau'r ddynoliaeth, y pris y mae'n rhaid ei dalu i oroesi, ac effaith diraddiad amgylcheddol ar wead cymdeithas. Gyda'i chyfuniad trawiadol o ansicrwydd, cynllwynio gwleidyddol, a straeon hynod bersonol, mae'r ddrama yn sbarduno sgyrsiau pwysig am gynaliadwyedd, perchnogaeth a dyfodol ein bodolaeth. 

Mae Water Wars, a gyfarwyddwyd gan Chris Durnall. Cyfarwyddwr Atristig Company of Sirens, yn dod ag actorion profiadol o Gymru at ei gilydd, gan blethu deialog Gymraeg a Saesneg ynghyd i adlewyrchu realiti dwyieithog y Gymru fodern. Mae'r eco-ddrama hon yn fyd-eang ac yn lleol, gan dynnu sylw at dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru wrth fynd i'r afael â mater o bwys byd-eang. MaeWater Warsyn fwy na drama—mae'n alwad i weithredu. Wrth i bryderon amgylcheddol barhau i ddominyddu penawdau byd-eang, nod y ddrama hon yw herio, ysbrydoli ac ysgogi cynulleidfaoedd. 

Mae Ian Rowlands yn ddramodydd o Gaerfyrddin sy'n adnabyddus yn rhyngwladol. ae ei ddramâu yn cynnwys Marriage of Convenience, Troyanne, Love in Plastic, Blue Heron in the Womb, The Sin Eaters, Glissando on an Empty Harp, ac Aurora Borealis. 

Yn serennu Arwel Gruffydd, Siwan Morris, Jâms Thomas, a Luke Mulloy. 

"Chillingly apposite." ⭐⭐⭐⭐ - The Stage


Canllaw oed: 16+ 
Cynhyrchiad dwyieithog 

Rhybudd: Mae'r perfformiad yn cynnwys effeithiau sain o danio gynnau, a darluniau o drais, iaith gref a bygythiadau o drais rhywiol.

Tocynnau | £20.50 & £15.50

Info Cyflym

  • Cwmni: Company of Sirens
  • Categori: Drama
  • Theatr: Glowyr

Info Cyflym

  • Cwmni: Company of Sirens
  • Categori: Drama
  • Theatr: Glowyr