The SpongeBob Musical

Dewch i weld y sioe lwyfan ddeinamig hon sy'n llawn canu a dawnsio! 

Pan fydd trigolion Bikini Bottom yn sylweddoli bod llosgfynydd ar fin ffrwydro a dinistrio eu cartref bach clud, rhaid i SpongeBob a'i ffrindiau ddod at ei gilydd i achub tynged eu byd tanfor. Gyda'u bywydau yn y fantol a phob gobaith wedi'i golli, daw'r arwr mwyaf annisgwyl i'r adwy. Gall pŵer optimistiaeth achub y byd! 

Mae The SpongeBob Musical yn seiliedig ar y gyfres animeiddiedig annwyl a grëwyd gan Stephen Hillenburg ac mae'n cynnwys llyfr gan Kyle Jarrow, gyda chaneuon gwreiddiol gan Yolanda Adams, Steven Tyler a Joe Perry o Aerosmith, Sara Bareilles, Jonathan Coulton, Alexander Ebert o Edward Sharpe & The Magnetic Zeros, The Flaming Lips, Lady A, Cyndi Lauper, John Legend, Panic! At the Disco, Plain White T’s, They Might Be Giants a T.I., a chaneuon gan David Bowie, Tom Kenny ac Andy Paley. Geiriau gan Jonathan Coulton, a cherddoriaeth ychwanegol gan Tom Kitt. Lluniwyd y cynhyrchiad cerddorol gan Tina Landau. 

Sioe gerdd newydd gyffrous sy'n cynnwys cymeriadau gwych a cherddoriaeth hudol, mae hon yn sioe fydd yn denu cynulleidfaoedd hen ac ifanc. Mae'r dyfodol yn ddisglair, mae'r dyfodol yn feiddgar, y dyfodol yw The SpongeBob Musical.

Cynhyrchiad ieuenctid.

Tocynnau: £15 & £12

Info Cyflym

  • Cwmni: Centre Stage Theatre
  • Categori: Musical Theatre
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Centre Stage Theatre
  • Categori: Musical Theatre
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen