The Socially Distant Sports Bar Live
The Socially Distant Sports Bar – Taith Fyw 2026
Ar ôl hoe hir (yn 2021 wnaethon ni hyn ddiwethaf), mae'r Socially Distant Sports Bar nôl o'r diwedd. Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i'w weld yn fyw.
Ymunwch ag Elis James (Elis & John, BBC Radio 5 Live), Mike Bubbins (Mammoth, BBC One), a Steff Garrero wrth iddyn nhw ddod â'u podlediad poblogaidd i'r llwyfan am noson o siarad am chwaraeon, weithie.
Hynny yw, tri ffrind yn gwneud eu gorau i aros ar y pwnc sydd yma - ond yn cael eu tynnu i bob cyfeiriad gan bob math o bethau, o ymdrechion i greu argraff ar yr optegydd, Terfysgoedd Beca, faint o wenyn sydd angen i wneud haid, i bron unrhyw beth arall ddaw i'w meddwl.
Ond fe fydd rhywfaint o sôn am chwaraeon. Yn y pen draw. Siŵr o fod.
Felly, p'un a ydych chi'n gwrando'n rheolaidd neu'n rhywun gafodd docyn gan ffrind oedd methu meddwl am unrhyw beth arall i roi i chi, dyma eich cyfle i gael profiad o'r dwlu arbennig yn fyw. Dewch ar gyfer y chwaraeon. Arhoswch am bopeth arall.
16+
Tocynnau: £27.50
- 24 Ebr, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Long Road Talent
- Categori: General Entertainment
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym
- Cwmni: Long Road Talent
- Categori: General Entertainment
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
