The Shires | Two of Us - Acoustic Tour - plus special guests
Mae band canu gwlad mwyaf y DU, The Shires, wedi cyhoeddi cyfres o sioeau yng Nghymru yn 2025. Bydd y daith The Two of Us gyda Ben Earle a Crissie Rhodes yn teithio ar hyd a lled y DU yn perfformio eu holl ganeuon clasurol.
Mae llwyddiannau The Shires yn siarad drostynt eu hunain: tri albwm yn y 3 uchaf yn y DU yn olynol, pedwar albwm canu gwlad yn #1 yn y DU, 100 miliwn a mwy o ffrydiau, dwy record Aur, a sioeau di-ri a werthodd allan, gan gynnwys llenwi neuadd fawreddog yr Albert Hall.
Daeth The Shires i'r amlwg am y tro cyntaf yn 2014 gyda'r sengl 'Nashville Gray Skies', cân chwareus am yr angen i gael sîn canu gwlad ym Mhrydain. Ac mae hynny'n rhywbeth y gwnaethon nhw gyfrannu tuag ato, gan ddechrau gyda'r albwm cyntaf Brave yn 2015, sef yr albwm cyntaf gan artist canu gwlad i gyrraedd y 10 uchaf yn y DU. Parhaodd y llwyddiant hwnnw gyda nifer o albymau llwyddiannus: My Universe yn 2016, Accidentally On Purpose yn 2018, Good Years yn 2020 a 10 Year Plan yn 2022.
Cafodd y band ei groesawu gan y sîn yn Nashville ar unwaith, gan arwain at ddwy Wobr CMA, ac roedd uchafbwyntiau eu teithiau yn cynnwys y C2C Festival a sioeau fel gwesteion i Carrie Underwood, Little Big Town, The Corrs a mwy.
Tocynnau | £37.50
- 8 Meh, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Kilimanjarao Live Ltd
- Categori: Music
- Theatr: Ffwrnes Llanelli
Info Cyflym
- Cwmni: Kilimanjarao Live Ltd
- Categori: Music
- Theatr: Ffwrnes Llanelli