The Makings of a Murderer 2 | The Real Manhunter

Ar ôl i'r holl docynnau gael eu gwerthu i sioeau ledled y wlad, mae taith theatr droseddau go iawn orau’r DU yn ôl gyda rhaglen newydd sbon!

Bydd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, Colin Sutton, a ddaliodd y llofrudd cyfresol Levi Bellfield a'r ‘Night Stalker’ Delroy Grant yn rhan o'r sioe.

Ymunwch â ni am noson iasol, wefreiddiol yn y theatr wrth i Colin, a oedd yn bennaeth carfan llofruddiaeth yr Heddlu Metropolitan, adrodd hanesion ynglŷn â sut y llwyddodd i ddal rhai o lofruddwyr gwaethaf y DU.

Yn y sioe newydd sbon hon, bydd Colin – a ysbrydolodd y gyfres ddrama ITV, ‘Manhunt,’ gyda Martin Clunes yn serennu – yn eich tywys drwy ei yrfa ryfeddol a sut brofiad yw mynd ar ôl llofrudd cyfresol a'i ddal, a hynny mewn noson unigryw yn y theatr - i'r rheiny sy'n ymddiddori mewn troseddau go iawn a mynychwyr theatr fel ei gilydd.

The Makings of a Murderer 2 – A Crime Thriller night at the Theatre!


Tocynnau | £30.50

Info Cyflym

  • Cwmni: Entertainers Theatrical Ltd
  • Categori: Other Artforms
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Entertainers Theatrical Ltd
  • Categori: Other Artforms
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli