The Jive Aces | Keeping The Show On The Road
Does dim angen cyflwyno'r Jive Aces. Heb os, mae ganddynt un o'r gwisgoedd Jumping Jive mwyaf adnabyddus y byd ac maent wedi bod yn perfformio ledled y byd ers 1989.
Cyrhaeddodd y grŵp rownd gyn-derfynol Britain's Got Talent yn 2012 ac maent wedi rhyddhau un ar ddeg albwm, yn ogystal â chasgliadau, EPs a senglau. Maent hefyd wedi perfformio mewn llawer o wyliau cerddorol mwyaf adnabyddus y DU.
Cafod y band ei sefydlu gan y canwr Ian Clarkson, y drymiwr Peter Howell (a aeth i'r ysgol gydag Ian yn Billericay), y baswr Ken Smith a'r sacsoffonydd "Big" John Fordham. Roedd pedwar ohonynt wedi cwrdd mewn clybiau jive a jazz yn Nwyrain Llundain. Fe wnaethant ennill profiad yn diddanu ar y stryd a chyn hir roeddent yn cael cynnig sioeau yn y DU ac Ewrop. Ar ôl sawl blwyddyn o deithio gydag amryw o gerddorion eraill, cyfarfu'r pedwar ag Alex Douglas (trombôn, bongos, telyn blues, bwrdd golchi) a Vince Hurley (piano), a ddaeth yn aelodau parhaol. Mae Grazia Clarkson, swyddog cyhoeddusrwydd y band, hefyd wedi dod yn aelod perfformio rheolaidd, gan chwarae'r acordion i nifer o ganeuon.
Mae'r band yn cael ei gydnabod fel un o'r bandiau swing gorau yn y byd, ac mae teithio rhyngwladol helaeth y band yn adlewyrchu hyn (mae'r band wedi perfformio mewn dros 40 o wledydd). Fe wnaeth rhifyn mis Mehefin 2015 o gylchgrawn Vintage Rock eu disgrifio fel un o fandiau jive a swing gorau'r DU.
Maent wedi derbyn gwobrau gan Variety, the Children’s Charity a Gwobr Gerddoriaeth Ryngwladol Dinas Derry yn 2006. Ar 12 Medi 2018, enillodd The Jive Aces y wobr "Band Gorau" yng Ngwobrau Cerddoriaeth Boisdale. Cyflwynwyd y wobr gan Jools Holland, a ymunodd â'r band am sesiwn jamio.
Dewch i fwynhau noson allan!
Tocynnau | £23
- 24 Mai, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Strada Music
- Categori: Music
- Theatr: Ffwrnes Llanelli
Info Cyflym
- Cwmni: Strada Music
- Categori: Music
- Theatr: Ffwrnes Llanelli