The Guilty Men
Er bod dyddiau'r 'arch-grŵp' wedi hen fynd, mae'n siŵr y byddai'r disgrifiad hwnnw'n addas ar gyfer The Guilty Men! Mae'r band yn cynnwys pump o'r cerddorion gorau o ogledd-orllewin Lloegr. Rhyngddynt, maent wedi chwarae mewn dros 10,000 o gigs ar y Ddaear, wedi recordio miloedd o ganeuon ac wedi gwneud ymddangosiadau radio a theledu di-ri. Maent yn brofiadol, a dweud y lleiaf!
Mae'r stori'n dechrau yn 1979, ym Manceinion, Lloegr. Gwnaeth Clive Gregson a Neil Cossar gwrdd trwy gyfaill cyffredin, John Martin, sef y baswr yn The Cheaters. Neil oedd gitarydd y band. Clive oedd arweinydd y band Any Trouble. Roedd gan The Cheaters system sain ac roedd Any Trouble yn berchen fan. Roedd cyfuno adnoddau'n gwneud synnwyr, yn aml gyda'r ddau fand ar yr un bil... dyddiau da!
Llofnododd Any Trouble gyda Stiff Records a llofnododd The Cheaters gydag EMI. Rhyddhaodd y ddau fand sawl albwm, gan berfformio mewn miloedd o sioeau. Daeth y ddau fand i ben. Aeth Clive ymlaen i gael partneriaeth lwyddiannus gyda'r gantores Christine Collister, rhyddhaodd dros 20 o albymau ar ei ben ei hun, a threuliodd 15 mlynedd yn Nashville yn gweithio fel cerddor sesiwn a chynhyrchydd. Daeth Neil yn DJ ar y radio, ffurfiodd gwmni cysylltiadau cyhoeddus ym maes cerddoriaeth a lansiodd y brand ar-lein This Day in Music, cyn dod yn gyhoeddwr llyfrau cerddoriaeth.
Ymlaen i 2021... Mae'r ffrindiau oes, Clive a Neil, yn cwrdd dros ginio ac yn penderfynu y gallai fod yn hwyl ceisio ysgrifennu caneuon gyda'i gilydd. Sawl wythnos a thipyn o ganeuon yn ddiweddarach, fe benderfynon nhw ehangu'r fenter o fod yn weithdy cyfansoddi caneuon i fod yn fand. Recriwtiodd Clive yr allweddellydd Jez Smith a'r baswr Craig Fletcher o John Lees’ Barclay James Harvest, a chwblhawyd y band gyda'r drymiwr chwedlonol, Paul Burgess, sydd wedi chwarae gyda 10cc ers 1973. Enwon nhw'r band The Guilty Men, ac i mewn â nhw i'r stiwdio recordio.
Ymlaen i 2024 ac mae albwm cyntaf The Guilty Men, sef Invisible Confetti yn barod i fynd. 13 o ganeuon newydd sbon wedi'u recordio yn y ffordd hen ffasiwn: pawb yn chwarae'n fyw yn y stiwdio, gyda'r bwriad o ddal y foment. Recordiwyd y rhan fwyaf o'r caneuon ar ôl dim mwy na 2 neu 3 chynnig, a chyda phedwar prif unawdydd, mae'r albwm yn cynnwys llawer o arddulliau cerddorol. Mae Invisible Confetti yn wych ac mae'n cynnwys nodweddion o ganu gwlad, cerddoriaeth Americana, gwerin, pop a seicedlia, sy'n daith wefreiddiol o'r dechrau i'r diwedd. Ymunwch â ni!
Tocynnau | £18
- 2 Maw, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Strada Music
- Categori: Music
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
Info Cyflym
- Cwmni: Strada Music
- Categori: Music
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen