Sleeping Beauty
Ymunwch â ni wrth i ni deithio i wlad hudolus o gestyll, tylwyth teg, dreigiau, ac olwynion nyddu!
Yn y stori gyfareddol hon mae'r Dywysoges Aurora hardd yn pigo ei bys ar olwyn nyddu a felltithiwyd gan y ddewines ddrwg, gan ei rhoi mewn trwmgwsg am 100 mlynedd. Dim ond cusan gwir serch all dorri'r felltith a dihuno'r dywysoges. A fydd hi'n dod o hyd i'w gwir gariad ac yn byw'n hapus byth wedyn?
Mae'r pantomeim teuluol gwych yn Theatr Ffwrnes Llanelli yn llawn hwyl a chwerthin gyda setiau trawiadol, caneuon poblogaidd, gwisgoedd gwych ac effeithiau arbennig cyffrous i ddiddanu cynulleidfaoedd hen ac ifanc!
Peidiwch â chael eich dal yn cysgu – archebwch nawr ac ymunwch â ni ar gyfer PANTOMEIM GWYCH Y FLWYDDYN NESAF!
Sylwch y bydd goleuadau strôb a phyrotechneg yn cael eu defnyddio yn ystod y perfformiad hwn.
Ar hyn o bryd nid yw'r tocynnau ar gyfer y perfformiad ddydd Sadwrn, 25 Ionawr am 7pm ar gael i'r cyhoedd.
Perfformiadau Premiwm: (dydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul) Pris Llawn: £16, Consesiwn £14, Tocyn Teulu £56 Grŵp 10+ £14 (mae gostyngiad yn cael ei roi'n awtomatig yn y cert pan ychwanegir dros 10 o docynnau).
Perfformiadau Safonol: (dydd Mawrth, dydd Mercher, dydd Iau) Pris Llawn £14, Consesiwn £12, Tocyn Teulu £48 Grŵp 10+ £12 (mae gostyngiad yn cael ei roi'n awtomatig yn y cert pan ychwanegir dros 10 o docynnau), Grŵp 25+ £10 (rhaid archebu drwy'r Swyddfa Docynnau).
Perfformiad ag Iaith Arwyddion Prydain: Dydd Mawrth, 14 Ionawr, 6.30pm - Anthony Evans, Cyfieithydd BSL
Wrth edrych ar y llwyfan o'r awditoriwm, bydd Anthony yn sefyll ar ochr dde'r llwyfan.
Beth yw perfformiad wedi'i gyfieithu i Iaith Arwyddion Prydain? Mewn perfformiadau Iaith Arwyddion Prydain, bydd arwyddwyr hyfforddedig yn cyfieithu'r sgript a'r iaith a ddefnyddir gan y perfformwyr yn ystod y perfformiad. Fel arfer, bydd y cyfieithydd yn sefyll neu'n eistedd ar un ochr o'r llwyfan.
Perfformiad hamddenol: Dydd Mawrth, 21 Ionawr, 6:30pm
Beth yw perfformiad hamddenol? Mae perfformiadau hamddenol yn agored i bawb, ac maent yn benodol ar gyfer plant, pobl ifanc neu oedolion sydd ag anableddau, anghenion cymorth ychwanegol a'r rhai sydd ar y sbectrwm awtistig. Cysylltwch â'n tîm yn y Swyddfa Docynnau i gael rhagor o wybodaeth.
- 9 Ion, 19:00 ARCHEBWCH NAWR
- 10 Ion, 19:00 ARCHEBWCH NAWR
- 11 Ion, 14:00 ARCHEBWCH NAWR
- 11 Ion, 19:00 ARCHEBWCH NAWR
- 12 Ion, 12:00 ARCHEBWCH NAWR
- 12 Ion, 16:00 ARCHEBWCH NAWR
- 14 Ion, 18:30 ARCHEBWCH NAWR (BSL)
- 15 Ion, 19:00 ARCHEBWCH NAWR
- 16 Ion, 19:00 ARCHEBWCH NAWR
- 17 Ion, 19:00 ARCHEBWCH NAWR
- 18 Ion, 14:00 ARCHEBWCH NAWR
- 18 Ion, 19:00 ARCHEBWCH NAWR
- 19 Ion, 12:00 ARCHEBWCH NAWR
- 19 Ion, 16:00 ARCHEBWCH NAWR
- 21 Ion, 18:30 ARCHEBWCH NAWR (Ymlaciedig)
- 22 Ion, 19:00 ARCHEBWCH NAWR
- 23 Ion, 19:00 ARCHEBWCH NAWR
- 24 Ion, 19:00 ARCHEBWCH NAWR
- 25 Ion, 14:00 ARCHEBWCH NAWR
- 25 Ion, 19:00 ARCHEBWCH NAWR
- 26 Ion, 12:00 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Friendship Theatre Group
- Categori: Christmas Show
- Theatr: Ffwrnes Llanelli
Info Cyflym
- Cwmni: Friendship Theatre Group
- Categori: Christmas Show
- Theatr: Ffwrnes Llanelli