Mothers of the Brides

Yn serennu:
Diane Carson (BBC's The Traitors)
Julie Coombe
Helen Logan

3 Mam. 3 Priodferch. 3 Priodas. 
Sut fyddan nhw'n dod trwyddi heb angladd? 

Dyma sioe gan awduron y comedïau poblogaidd Hormonal Housewives a Girls Just Wanna Have Fun. 
Estynnir gwahoddiad cynnes ichi gwrdd â Mothers of the Brides – tri ffrind gorau sydd wedi bod wrthi fel lladd nadroedd yn paratoi seremonïau, gan roi eu merched ar ben ffordd y llwybr priodasol i briodas hir oes. Mae'r tair menyw yn gwneud eu gorau i leihau'r anhrefn briodasol ac osgoi sefyllfaoedd lle mae pobl yn methu'n lân â chytuno.  

Gall priodasau fod yn wirion, yn rhyfedd neu'n barchus, ond maen nhw i gyd yn rhyfeddol o unigryw ac mae mamau'r priodferched yn gwybod popeth amdanyn nhw. O ffrogiau delfrydol i westeion hunllefus. O ategion gwallt trafferthus i goreograffi amhosibl y ddawns gyntaf. Mae'r menywod hyn wedi concro'r copaon ac wedi taclo'r problemau o ran cynllunio priodasau. 

Mae Mothers of the Brides yn daith hwyliog sy'n llawn sgetshis a digrifwch wrth fynd drwy'r ddrysfa briodasol o gael eich plant at yr allor... Sut yn y byd mae'r mamau'n gwneud hyn? 

Efallai fod gennych briodas yn agosáu neu efallai nad ydych am briodi byth eto, ond bydd Mothers of the Brides yn sicr o wneud ichi chwerthin yr holl ffordd at yr allor! 

Os ydych chi'n barod am ychydig o adloniant a noson allan wych, cofiwch roi Mothers of the Brides yn eich dyddiadur.

Tocynnau | £30.50 | Cynnig Cynnar: 50 tocynnau cyntaf £25.50

Info Cyflym

  • Cwmni: Almack Productions
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Almack Productions
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen