Lost In Music - One Night At The Disco

– Y Sioe Ddisgo Wreiddiol!

Dewch i fwynhau siwrnai wefreiddiol drwy seiniau'r saithdegau. Mae ein band gorau yn y byd a'n lleisiau disglair yn sicr o'ch tywys yn ôl i ganol y byd disgo ar ei anterth.

Byddwch yn barod i ail-fyw caneuon oesol gan eiconau fel Donna Summer, Gloria Gaynor, Earth, Wind & Fire, Sister Sledge a Chic.

Gwisgwch i greu argraff yn eich dillad disgo mwyaf disglair wrth i ni dalu teyrnged i oes aur y disgo. O guriadau anorchfygol "Never Can Say Goodbye" i rythm dirgrynol "Boogie Wonderland," mae gennym ddigonedd i'ch diddanu a fydd yn siŵr o wneud ichi ddawnsio drwy'r nos.

Peidiwch â cholli mas ar sioe sy'n siŵr o godi'ch hwyliau – ymunwch â ni i fwynhau'r gerddoriaeth ac anghofio'ch gofidiau!

Lost in Music – ar daith o amgylch y genedl, tocynnau ar werth nawr!

Sioe deyrnged yw hon ac nid yw hi mewn unrhyw fodd yn gysylltiedig ag unrhyw artistiaid gwreiddiol/ystadau/cwmnïau rheoli na sioeau tebyg. Mae'r hyrwyddwr yn cadw'r hawl i newid y rhaglen.

Tocynnau: £30.50

Info Cyflym

  • Cwmni: Entertainers Show Providers Ltd
  • Categori: Music
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Entertainers Show Providers Ltd
  • Categori: Music
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli