Jurassic Earth Live
Cwmni cynhyrchu deinosoriaid gorau Ewrop yn cyflwyno Jurassic Earth, y sioe ddeinosoriaid fyw wreiddiol a gorau!
Paratowch i fynd ar antur Jwrasig... Dewch i gwrdd â'r ceidwaid dewraf a fu wrth iddynt fynd â chi ar daith drwy Jurassic Earth, gan eich cyflwyno i'r rhywogaethau o ddeinosoriaid mwyaf anhygoel erioed!
Dewch â'ch "rhu" mwyaf a'ch traed cyflymaf wrth i chi fynd i ddosbarth meistr Rangers Danger's i fod yn Geidwad Deinosoriaid Swyddogol – gan ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod wyneb yn wyneb â Thyranosorws Rex mwyaf y byd sy'n cerdded, Brontosor annwyl, Trichorn lletchwith, Carnotorws na ellir ei reoli, Felosiraptor milain a Sbinosorws slei.
Teimlwch y cyffro o wylio Ŵy Deinosor yn deor o flaen eich llygaid a'r wefr o gwrdd â'r Ancylosorws, y Pterodactyl a'r Cywion Deinosoriaid mwyaf ciwt...
Sioe deuluol ryngweithiol wefreiddiol i deuluoedd sy'n dwlu ar ddeinosoriaid! Dyma sioe deuluol gyffrous 75 munud o hyd sy'n addas ar gyfer pob oedran, ac sy'n cynnwys animatroneg syfrdanol a pherfformiadau realistig anhygoel.
Byddwch yn barod i chwerthin, i sgrechian, i ganu ac i RUUUUUUOO wrth i ni eich croesawu ar yr antur ddeinosoriaid fwyaf ar Jurassic Earth... Mae mor ARRRRBENNIG, fyddwch chi ddim am i'r antur ddod i ben!
Mae'r Tocynnau Arbennig yn Cynnwys:
Cwrdd a chyfarch rhai o gywion deinosor, deinosoriaid a cheidwaid y sioe ar ôl y perfformiad.
Mae plant yn cael rhaglen a llyfr gweithgareddau gyda chreonau am ddim. (Bydd Profiad Cwrdd a Chyfarch y Tocynnau Arbennig yn cael ei gynnal AR ÔL y sioe ac yn para 30 munud)
Tocynnau | £20 & VIP £30
- 25 Hyd, 12:00 ARCHEBWCH NAWR
- 25 Hyd, 15:00 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Big Foot Events
- Categori: Family
- Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym
- Cwmni: Big Foot Events
- Categori: Family
- Theatr: Ffwrnes Llanelli
