John Barrowman | Laid Bare

John Barrowman, Laid Bare yw ei sioe newydd, ac nid yw'n dal dim nôl wrth drafod ei angerdd am fywyd a'i gariad diffuant at stori a chân. 

Yn Laid Bare, mae pob cân, boed yn glasur Broadway neu'n un gyfoes, yn dangos arddull ddihafal John a'i lais trawiadol. Mae ei straeon a'i hanesion personol yn llawn o'i ffraethineb brwd Albanaidd, a'i egni heintus. 

Yn fwyaf adnabyddus am chwarae Capten Jack Harkness yn Doctor Who a Torchwood, Malcolm Merlyn yn Arrow a'i sioeau adloniant niferus ar nos Sadwrn, bu John yn feirniad ar Dancing On Ice, Any Dream Will Do, How Do You Solve a Problem Like Maria, a I'd Do Anything. Ymddangosodd ar I'm a Celebrity... Get Me Out of Here a Strictly Come Dancing. 

Mae ei rolau cerddorol helaeth yn y West End a Broadway yn cynnwys rhannau blaenllaw yn Anything Goes, Sunset Boulevard, Chicago, Evita, Miss Saigon, Company, Beauty and the Beast a Phantom of the Opera. 

Mae Laid Bare yn fwy na chyngerdd - mae'n ddathliad o gelfyddyd, angerdd, a'r llawenydd a berthyn i gerddoriaeth. Dyma ichi sioe fydd yn aros yn hir yn y cof.

Beth am sbwylio'ch hun ac uwchraddio eich tocyn? 

Cynnig Ychwanegol 1: Sesiwn Gwirio Sain a Holi ac Ateb (£50) 
Cyrraedd o 5.15pm ymlaen ar gyfer 5:30pm yn y prif awditoriwm i gael blas o'r hyn sydd i ddod yn ystod sesiwn gwirio sain John lle bydd yn perfformio cwpl o ganeuon, ac yna'n cynnal sesiwn holi ac ateb. Sylwch na fydd lluniau/hunluniau yn ystod y sesiwn hon. 

Cynnig Ychwanegol 2: Cyfle i Gwrdd a Chyfarch a Thynnu Llun (£40) 
Bydd cyfle i dynnu lluniau yn ystod y sesiwn cwrdd a chyfarch yn syth ar ôl y sioe yn yr awditoriwm. Bydd gan ddeiliaid tocynnau gyfleoedd i dynnu lluniau a chwrdd â John. 

Cynnig Ychwanegol 3: Sesiwn Gwirio Sain a Holi ac Ateb, Cwrdd a Chyfarch a Chyfle i Dynnu Lluniau (£80) 
Cyfuniad o'r opsiynau Holi ac Ateb a Chwrdd a Chyfarch - sesiwn gwirio sain cyn y perfformiad o 5.30pm ymlaen a chyfle i Gwrdd a Chyfarch ar ôl y perfformiad. 

(Sylwch: Rhaid i gwsmeriaid brynu tocyn i allu ychwanegu cynnig ychwanegol)

Tocynnau | £40 | £35 | £30

Info Cyflym

  • Cwmni: RED Entertainment
  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: RED Entertainment
  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen