Footloose, The Musical: Youth Edition

Ymunwch â ni wrth i un o'r ffilmiau sioe gerdd mwyaf tanbaid ers tro ddod i'r llwyfan gyda chanlyniadau gwefreiddiol. Pan fydd Ren a'i fam yn symud o Chicago i dref ffermio fach, mae Ren yn barod ar gyfer y cyfnod anochel o addasu yn ei ysgol uwchradd newydd. Yr hyn nad yw'n barod amdano yw'r gorchmynion lleol llym, gan gynnwys gwaharddiad ar ddawnsio a sefydlwyd gan y pregethwr lleol, sy'n benderfynol o arfer rheolaeth dros ieuenctid y dref nad oes ganddo yn ei gartref ei hun. Pan fydd merch wrthryfelgar y Parchedig yn gosod ei golygon ar Ren, mae ei llabwst o gariad yn ceisio pardduo enw da Ren, gyda llawer o'r bobl leol yn awyddus i gredu'r gwaethaf am y crwt newydd. Mae stori o'r galon yn dod i'r amlwg am dad sy’n hiraethu am y mab a gollodd ac am ddyn ifanc sy’n hiraethu am y tad a’i adawodd.

I rythm roc ei sgôr a gyrhaeddodd y 40 Uchaf ac a enwebwyd am Oscar a Tony, (cyrhaeddodd yr albwm trac sain rif un ar siartiau'r Billboard ac mae wedi gwerthu dros 17 miliwn o gopïau!) a chyda chaneuon newydd dynamig ar gyfer y sioe gerdd lwyfan, mae Footloose yn dathlu doethineb gwrando ar bobl ifanc, gan eu tywys â chalon gynnes a meddwl agored.

Tocynnau | £8 & £5

Info Cyflym

  • Cwmni: Coedcae Comprehensive School
  • Categori: Musical Theatre
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Coedcae Comprehensive School
  • Categori: Musical Theatre
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli