Byth Bythoedd Amen
Gan Mared Jarman
“Ma bywyd yn brutal. Ond mae’n gallu bod yn biwtifful hefyd.”
Pop glas, Jäger bombs a sgrolio Tinder.
Gweiddi chwil a karaoke yw curiad y ddinas.
Strydoedd yn llawn “livin’ for the weekend”…
Mae Lottie ar noson allan sy'n wahanol i bob noson allan gynt. Wrth i’r noson hwyrhau a Lottie’n ymgolli yn ei hatgofion, mae'r ffin rhwng realaeth a dychymyg yn chwalu ac mae’n cychwyn ar daith o faddeuant, hunan-ddarganfod a dawnsio fel bod neb yn edrych!
Yn ddinesig, yn ddoniol ac yn dywyll, dyma ddrama newydd gan Mared Jarman am gariad, colled a bywyd fel pobl ifanc anabl mewn byd sy’n blaenoriaethu’r brif ffrwd. Bydd Mared – sy’n llais newydd a chyffrous i fyd y theatr Gymraeg - hefyd yn ymddangos fel Lottie, ochr yn ochr â’i chyd-actor Paul Davies, dan gyfarwyddyd Rhian Blythe.
Canllaw Oed: 16+
Yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed
Gyda chapsiynau Cymraeg a Saesneg. Bydd disgrifiad sain Cymraeg ar gael a nifer cyfyngedig o ddyfeisiau Disgrifiad Sain ar gael i'w defnyddio. Dewiswch yr opsiwn hwn wrth archebu tocyn.
Bydd taith gyffwrdd, dan arweiniad y Disgrifydd Sain Eilir Gwyn ar gael cyn y sioe am 6:30pm. Dewiswch yr opsiwn hwn wrth archebu tocyn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm ein Swyddfa Docynnau drwy ffonio 0345 2263510 neu drwy anfon neges e-bost i theatrau@sirgar.gov.uk.
Tocynnau | £14.50 & £10.50
- 3 Chwe, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Theatr Genedlaethol Cymru
- Categori: Drama
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni
Info Cyflym
- Cwmni: Theatr Genedlaethol Cymru
- Categori: Drama
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni