Beauty and the Beast | Lyric

Ymunwch â ni i weld hen, hen stori dwymgalon y Nadolig hwn lle mae cariad yn trechu popeth!

Pan gaiff tywysog ei felltithio i fyw ei fywyd fel bwystfil brawychus, ei unig obaith o ddianc rhag y dynged hon yw dod o hyd i'w wir gariad. Pan ddaw Beauty i'w fywyd, ai dyma'r cyfle y mae wedi bod yn aros amdano? A fydd Beauty yn ei weld fel mwy nag anghenfil? A all y bwystfil ddysgu sut i garu unwaith eto cyn i'r petal olaf ddisgyn o'r rhosyn hudol?

Gyda chymeriadau lliwgar, setiau ysblennydd a gwisgoedd anhygoel, mae Beauty and the Beast yn bantomeim cyffrous a llawn hwyl y bydd y teulu cyfan yn ei fwynhau.

Yn dilyn llwyddiant Jack and the Beanstalk, mae Theatrau Sir Gâr yn falch iawn o gael cefnogaeth gan Imagine Theatre unwaith eto eleni wrth iddynt gyflwyno Beauty and the Beast fel pantomeim Nadolig Theatr y Lyric ar gyfer 2024.

Dewch i gwrdd â'r cast

  • Sêr y West End, Steve Elias yn falch iawn o gael dychwelyd i'w dref enedigol i chwarae'r ‘panto dame’, Sylvia Scrub-It
  • Bachgen o Bontiets ac actor Pobol y Cwm, Carwyn Glyn yn actio'r cymeriad hoffus Sammy Scrub-it
  • Yr hynod dalentog Ceri-Anne Thomas o Ben-y-bont ar Ogwr yn actio'r cymeriad hardd a charedig Belle
  • Dechreuodd yr actores hon o Gaerfyrddin berfformio mewn sioeau Opera Ieuenctid yn y dref ac mae wedi mynd ymlaen i berfformio ar lwyfannau ar draws y byd, Alexandra George yn actio'r cymeriad cyfrinol Enchantress
  • Actor Coronation Street a seren theatr gerdd, Neil Moors yn actio'r cymeriad drwg Gaston
  • Fel perfformiwr llwyfan profiadol, mae wedi chwarae rhannau gan gynnwys Bill Sykes yn ‘Oliver’ i Dave yn y ‘Full Monty’ ond nawr bydd Jonathan Alden yn actio'r Tywysog golygus a'r Bwystfil brawychus.

Gweler y cyhoeddiad cast llawn yma.

Rhybudd

Sylwch y bydd goleuadau strôb, pyrotechneg a mwg theatrig yn cael eu defnyddio yn ystod y perfformiad hwn.


Ysgolion

Ar gyfer archebion ysgolion, gweler y dudalen hon.


Perfformiad BSL - Nos Sul 15 Rhagfyr 6yn - Anthony Evans

Beth yw perfformiad wedi'i gyfieithu i Iaith Arwyddion Prydain (BSL)? 

Ym mherfformiadau Iaith Arwyddion Prydain, mae arwyddwyr hyfforddedig yn cyfieithu'r sgript a'r iaith a ddefnyddir gan y perfformwyr wrth i hynny ddigwydd. Bydd y cyfieithydd yn ar y dde ochr y llwyfan (wrth edrych o'r gynulleidfa).


Perfformiad Ymlaciedig- Nos Wener 27 Rhagfyr 6yn

Beth yw perfformiad ymlaciedig? 

Mae perfformiadau ymlaciedig yn agored i bawb, ac wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer plant, pobl ifanc neu oedolion a allai fod ag anableddau, anghenion cymorth ychwanegol a'r rheiny sydd ar y sbectrwm awtistig. 


 - Dim pyrotechneg na goleuadau strôb 

- Bydd y sain hefyd ar lefel is 

- Bydd y goleuadau tŷ yn aros ymlaen ond yn pylu 

- Bydd y gynulleidfa’n gallu mynd a dod o’r awditoriwm os dymunant. 


Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a'n tim Swyddfa Docynnau ar theatrau@sirgar.gov.uk neu 0345 2263510 

Gweler y stori weledol ar gyfer Y Lyric yma 


Hyd y perfformiad: 2 hwr (yn cynnwys un egwyl)

Tocynnau
Arbedwr: £13.50, £15.50 & £54
Safonol: £17, £19 & £68
Premiwm: £19, £22 & £76

Ffotograffiaeth: Kirsten McTernan

Info Cyflym

  • Cwmni: Theatrau Sir Gâr
  • Categori: Christmas Show
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Theatrau Sir Gâr
  • Categori: Christmas Show
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen