An Evening of Burlesque

Yn syth o'r West End yn Llundain, dyma noson o chwerthin, cabaret, dirgelwch a glamor.

Dewch, dewch ynghyd am noson ddisgleirwych o adloniant arbennig. Mae sioe fwrlésg hynaf y DU yn ôl ar daith o amgylch y wlad, ac mae'n fwy nag erioed. Ymunwch â ni am noson allan hen ffasiwn dda wrth i ni ddod â'r sioe adloniant orau i chi, gan gyfuno cabaret steilus, comedi, cerddoriaeth, syrcas a bwrlésg i ysgogi'ch synhwyrau i gyd.

Gyda diddanwyr gorau'r byd a sêr y llwyfan a'r sgrin, paratowch ar gyfer gwledd o sbloets a glamor. Gallwch ddisgwyl hwyl, plu a gwisgoedd gwych wrth i ni ddewis o'r detholiad gorau o artistiaid arbenigol, sêr cabaret a syrcas, comedïwyr a dawnswragedd dawnus.

Mae An Evening of Burlesque yn sioe llawn dop o artistiaid arbennig sydd wedi swyno cynulleidfaoedd ers canrifoedd. Mae'r sioe syfrdanol hon yn dwyn ynghyd sêr talentog tu hwnt er mwyn darparu adloniant amrywiol ar gyfer yr 21ain Ganrif.Gallwch ddisgwyl digonedd o glitr a glamor. Mae'n amser coctels a cabaret.

Mae'n bosibl y gallai'r cynnwys newid. Addas i bobl dros 18 oed.


⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️

"A must-see for any fans of a classic cabaret, an amazing troupe of performers, this wonderful show is full of glitz, glam and wonder"- Curtain Call Reviews

⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️

"The UK’s longest running burlesque show made its West End debut and proved that it is the ultimate variety show" - FabUK Magazine

⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️

"What a treat! Billed as ‘a night of laughter, cabaret, mystery and glamour’, it does entirely what it says on the tin" - Fairy Powered Productions

“The whole evening was fun, warm, sexy, sassy. . .“ - Grapevine Magazine


Tocynnau | £32.50 (Cynnig Cynnar: 50 tocynnau cyntaf £29.50)

Info Cyflym

  • Cwmni: Entertainers Show Providers Ltd
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Lyric Theatre - New Plan

Info Cyflym

  • Cwmni: Entertainers Show Providers Ltd
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Lyric Theatre - New Plan