Agatha Christie's "AND THEN THERE WERE NONE"

Mae deg dieithryn yn cael eu denu i ynys unig oddi ar arfordir Dyfnaint. 

Pan mae storm yn eu rhwystro rhag cyrraedd y tir mawr, mae'r gwir reswm dros fod yno yn dod i’r amlwg mewn ffordd ofnadwy. 

Wrth i amser fynd heibio ac wrth iddyn nhw gael eu lladd fesul un yn ôl yr hwiangerdd 

"Ten Little Soldier Boys", mae'n amlwg na all y rhai sydd ar ôl ymddiried yn neb. 

A fydd un ohonyn nhw’n goroesi ac yn dianc o'r ynys?

“And Then There Were None" yw addasiad Agatha Christie ei hun o'i nofel boblogaidd.
 
Ymunwch â Grŵp Theatr Phoenix Llanelli i fwynhau'r ddrama glasurol hon gan Agatha Christie sy'n llawn troeon annisgwyl i ddarparu adloniant da a noson o'r radd flaenaf yn y theatr.

Tocynnau | £13, grŵp 10+ £11 gyda un tocyn am ddim

Info Cyflym

  • Cwmni: PHOENIX THEATRE GROUP
  • Categori: Drama
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: PHOENIX THEATRE GROUP
  • Categori: Drama
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli