Adwaith
Noson Lansio Solas - Trydydd Albwm
Act cefnogi: Emyr Sion
Adwaith
Bydd Adwaith yn dathlu rhyddhau eu trydydd albwm, hir ddisgwyliedig, Solas, gyda sioe lansio arbennig yn Theatr y Lyric yn eu tref enedigol, Caerfyrddin. Bydd y digwyddiad unigryw hwn yn gweld y band yn perfformio'r albwm yn ei gyfanrwydd, gan roi cyfle unigryw i brofi Solas fel yr oedd i fod i gael ei glywed - o'r dechrau i'r diwedd.
Amdan Adwaith
Mae’r triawd o Gaerfyrddin, Adwaith – sef Hollie Singer, Gwenllian Anthony, a Heledd Owen – yn rhyddhau eu trydydd albwm hir ddisgwyliedig, ‘Solas’, ar y 7fed o Chwefror 2025 drwy Recordiau Libertino. Yn albwm ddwbl 23-trac, mae'r casgliad yn cwblhau trioleg arbennig y band gan archwilio themâu sy'n cynnwys hunan-ddarganfyddiad, dihangfa, a chadernid.
Wedi’u dylanwadu'n wreiddiol gan y sin gerddoriaeth yng Nghaerfyrddin, a’r bandiau Cymraeg a chwaraeodd yn aml yn yr eiconig, The Parrot, roedd y band – a oedd yn eu harddegau pan ddechreuon nhw greu cerddoriaeth gyda’i gilydd – yn teimlo'r awydd i ddianc o'u tref enedigol pan oedden yn iau, ond mae gwreiddiau'r gorllewin wedi dal eu gafael ers erioed. Mae 'Solas' yn cynrychioli pennod newydd i Adwaith, pennod sy'n amlygu eu hesblygiad amlwg fel band. Wedi’i ysgrifennu yng Nghaerfyrddin, mae’r albwm yn uno hunaniaeth a'r teimlad o berthyn.
Mae ‘Solas’, sef trydydd albwm Adwaith ac sy'n dilyn ‘Melyn’ a 'Bato Mato' a enillodd Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2018 a 2022, yn cynnig archwiliad amrwd o hunan ddarganfyddiad. “Mae'n ymwneud â dod o hyd i gartref, y lle diogel hwnnw ynoch chi'ch hunain,” meddai Hollie Singer. Yn gerddorol, mae’r record hon yn nodi datblygiad o ddylanwadau ôl-pync cynnar y band, gan dynnu ynghyd tapestri cyfoethog o chwaeth gerddorol sy'n cynnwys elfennau o ABBA, The Cure, Lizzy Mercier Descloux a Jessica Pratt.
Ysgrifennwyd rhan helaeth o draciau 'Solas’ yn nhŷ Heledd yng ngorllewin Cymru, ac fe’i recordiwyd ar draws gorllewin Cymru, Lisbon ac Ynysoedd yr Hebrides. Yn ôl y band, mae’r lleoliadau anghysbell hyn wedi dylanwadu ar awyrgylch ysbrydol a thaith gerddorol yr albwm.
Bydd Adwaith yn cychwyn ar eu taith ar draws y DU ac Ewrop fis Chwefror 2025. Mae’r albwm yn garreg filltir arbennig i'r band a'n cadarnhau eu gweledigaeth greadigol ddigyfaddawd, gan blethu’r Gymraeg i’w cerddoriaeth fel offeryn hollbwysig sy’n atseinio ar lefel reddfol. “Mae'r defnydd o'r Gymraeg trwy gydol 'Solas' yn teimlo'n naturiol, yn gywir, ac yn angenrheidiol,” meddai Gwenllian Anthony. “Roedden ni eisiau i wrandawyr deimlo rhywbeth greddfol ac emosiynol yn y gerddoriaeth, p’un a oedden nhw’n deall pob gair ai peidio.”
Gyda 'Solas', mae Adwaith yn torri tir newydd, gan ddod y band benywaidd Cymraeg cyntaf i ryddhau albwm ddwbl. “Rwy’n teimlo ein bod ni’n hyderus yn ein hunain fel cerddorion, a’n sain, a’r byd rydyn ni eisiau ei greu,” ychwanegai Hollie Singer.
Bydd 'Solas' allan ar 7fed o Chwefror 2025 trwy Recordiau Libertino. Rhag-archebwch albwm newydd ‘dwbwl’ Adwaith ‘SOLAS’ yma.
Tocynnau Cynnig Cynnar: £13.50 | £15.50 (tan 15 Ionawr 2025)
Pris safonol: £15.50 | £17.50
Dim cyfyngiadau oedran, er bod rhaid i rai dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.
- 15 Chwe, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Categori: Music
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
Info Cyflym
- Categori: Music
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen