Y Llyn | Glowyr

Cariad, colled, hud a lledrith yn nhirwedd. 
Cymru Fersiwn newydd o hen glasur.

“Mae merch yn dod allan o’r llyn ac yn sefyll ar y lan yn wlyb diferol. Mae’r gwynt yn sgwrio dros y dŵr wrth iddi graffu ar y lan. Mae hi’n disgleirio yng ngolau’r lleuad ac mae’i hadlewyrchiad yn pefrio. Fe ddaw e yfory”. Sioe chwedleua awr o hyd yw Y Llyn wedi’i hysbrydoli gan chwedl Llyn y Fan Fach ac wedi cyflwyno yn y Gymraeg a Saesneg, ochr yn ochr mewn ffordd hollol newydd.
Dyma un o chwedlau mwyaf adnabyddus Cymru wedi’i chyflwyno gan BANDO! mewn ffordd hollol newydd. 

Gan ddilyn blaenwelediad hynod o lwyddiannus yng Ngŵyl Chwedleua Ryngwladol Beyond the Border rydym yn falch dweud ein bod ni wedi ennill grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru er mwyn teithio’r sioe ganmoladwy hon. Michael Harvey yw cyfarwyddwr y cwmni newydd sbon BANDO! Mae’r cwmni yn dod ag artistiaid o gelfyddydau gwahanol at ei gilydd er mwyn i siaradwyr rhugl, dysgwyr a’r di-gymraeg cael mwynhau’r sioe ac yn ymdrochi yn y perfformiad heb gyfieithiad allanol. 

Y mae BANDO! yn gwmni newydd sbon gyda Michael Harvey wrth y llyw ac yn dod ac artistiaid o gelfyddydau eraill er mwyn creu profiad adrodd straeon newydd sbon. Perfformiwyd gyda cherddoriaeth, dawns ac yn defnyddio’r Gymraeg a Saesneg ochr yn ochr er mwyn i creu profiad chwedleua newydd sbon. 

Perfformiwyd gyda cherddoriaeth, dawns ac yn defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg ochr yn ochr er mwyn i siaradwyr Cymraeg, y di-Gymraeg a dysgwyr i gyd cael deall heb offer allanol. 

Gyda dehongliad BSL gan Cathryn McShane. Gweler y daflen BSL yma.

Perfformiad dwyieithog 

Michael Harvey – Storïwr 
Stacey Blythe – Cerddor 
Eeva-Maria Mutka – Dawnswraig
Kama Roberts - Cynhyrchydd

Tocynnau | £12.50 & £10.50

Info Cyflym

  • Cwmni: BANDO!
  • Categori: Literature
  • Theatr: Glowyr

Info Cyflym

  • Cwmni: BANDO!
  • Categori: Literature
  • Theatr: Glowyr