Wynne Evans | A Christmas Special

Mae Wynne Evans, seren Strictly Come Dancing 2024, yn dod â'i lais tenor operatig anhygoel i'r llwyfan! Mae'r cyngerdd arbennig hwn yn cynnwys y caneuon Nadolig mwyaf poblogaidd a chaneuon o albwm cyntaf Wynne, A Song in My Heart, a aeth yn syth i rif 1 yn y siartiau albwm clasurol.

Mae Wynne, sydd bellach yn enw cyfarwydd, yn gyflwynydd ar BBC Radio Wales ac mae'n ymddangos yn rheolaidd fel Gio Compario yn hysbysebion teledu Go Compare. Mae Wynne wedi canu fel y prif denor gydag Opera Cenedlaethol Cymru, gan berfformio yn Nhŷ Opera Brenhinol Covent Garden, Opera De Lyon ym Mharis a'r Tŷ Opera Metropolitan yn Efrog Newydd. Cafodd ganmoliaeth fawr am ei berfformiad yn Neuadd Frenhinol Albert fel Piangi yng nghyngerdd The Phantom of the Opera i ddathlu 25 mlynedd.

Yn perfformio amrywiaeth o'r ariâu, y caneuon theatr gerddorol a'r clasuron mwyaf poblogaidd, bydd Wynne ar y llwyfan gyda cherddorfa fyw, côr ac unawdwyr gwadd arbennig.

Dyma noson na ddylai neb ei cholli!

Tocynnau | £40.50

Info Cyflym

  • Cwmni: Handshake Ltd
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Handshake Ltd
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli