Water Wars | Ffwrnes
"Beth sy'n gwneud i chi feddwl y bydden ni’n barod i farw o syched, fel y gallwch chi ddyfrio lawntiau gwyrdd Surbiton?"
Roedd y penderfyniad gan ddinas Lerpwl i orfodi codi argae ar draws Afon Tryweryn yn y 1960au wedi ailddeffro'r awydd am hunanbenderfyniad yng Nghymru. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, gellid dadlau iddo arwain yn uniongyrchol at ddatganoli. Yn Water Wars, mae Lloegr yn heidio i Gymru er mwyn cymryd meddiant o'i hadnoddau a chynnal ei hecoleg ei hun. Mae Water Wars yn eco-ddrama sy'n berthnasol iawn i gymunedau Cymru, yn awr ac yn y gorffennol.
Mae Ian Rowlands yn ddramodydd o Gaerfyrddin sy'n adnabyddus yn rhyngwladol.
ae ei ddramâu yn cynnwys Marriage of Convenience, Troyanne, Love in Plastic, Blue Heron in the Womb, The Sin Eaters, Glissando on an Empty Harp, ac Aurora Borealis.
Mae Water Wars yn gwbl ddwyieithog a bydd yn defnyddio ap cyfieithu Sibrwd mewn cydweithrediad â Theatr Genedlaethol Cymru.
Tocynnau | £20.50 & £15.50
- 20 Maw, 20:00 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Company of Sirens
- Categori: Drama
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni
Info Cyflym
- Cwmni: Company of Sirens
- Categori: Drama
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni