Truly, Jack the Ripper

Yn y sioe theatr eithriadol hon, mae'r actor arobryn Jonathan Goodwin yn chwarae cymeriadau gwahanol wrth i ni fynd ar drywydd llofruddiaethau a chwedlau'r enwog Jack the Ripper. Hyd y dydd hwn, mae hunaniaeth y lladdwr yn ddirgelwch o hyd. Er bod ystod o straeon yn bodoli ynglŷn â phwy allai'r lladdwr fod, a beth oedd ei gymhellion, mae'n ymddangos yn debygol na fydd y gwir byth yn dod i glawr.

Mae'r sioe theatr wreiddiol hon, a sgriptiwyd gan Jonathan Goodwin, yn cynnwys addasiad o The Lodger.


Tocynnau | £15

Info Cyflym

  • Cwmni: Don't Go Into The Cellar
  • Categori: Drama
  • Theatr: Glowyr

Info Cyflym

  • Cwmni: Don't Go Into The Cellar
  • Categori: Drama
  • Theatr: Glowyr