There's A Monster In Your Show

Mae anturiaethau rhyngweithiol Tom Fletcher ar gyfer dychymyg mawr yn llamu o fyd y llyfrau i'r llwyfan, wrth i'r gyfres annwyl 'Who's in Your Book?' wneud ei hymddangosiad cyntaf fel sioe gerdd newydd sbon.


Mae grŵp o berfformwyr yn paratoi i ddechrau eu sioe, ond yn darganfod yn gyflym nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain ar lwyfan. Mae anghenfil bach eisiau bod yn rhan o'r hwyl hefyd! Gyda gwahoddiad i'w ffrindiau, Draig, Estron ac Uncorn ymuno ag ef, gallwch ddisgwyl comedi ac anhre
fn wrth iddynt helpu i greu sioe hudolus, gan ddysgu am lawenydd llyfrau a chyfeillgarwch ar hyd y ffordd.

Antur 50 munud llawn egni sy'n cynnwys cerddoriaeth wreiddiol fywiog - mae'r sioe hon yn gyflwyniad perffaith i theatr fyw. Gallwch ddisgwyl digon o hwyl chwareus i'ch rhai bach wrth i'w hoff gymeriadau ddod yn fyw mewn sioe sy'n llawn eiliadau rhyngweithiol ichi gael mwynhau gyda'ch gilydd.


Mae'r anghenfil bach yn disgwyl 'mlaen i gwrdd â chi!


Tocynnau | £15.50, £13.50, £54

Info Cyflym

  • Cwmni: MEI Theatrical
  • Categori: Family
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: MEI Theatrical
  • Categori: Family
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli