The World Famous Cory Band live in Concert with the amazing Bella Voce

Band y Cory Mewn cyngerdd fyw gyda Bella Voce Beth am groesawu'r flwyddyn newydd drwy fwynhau perfformiad gwefreiddiol gan y byd-enwog Band y Cory, yng nghwmni sain anhygoel y grŵp lleisiol benywaidd o Sir Benfro, Bella Voce. 

Ymunwch â Band y Cory, pencampwyr presennol gwlad y gân, am noson hudolus o gerddoriaeth a byddwch barod i gael gwefr wrth wrando ar un o fandiau pres gorau'r unfed ganrif ar hugain. Mae'r Band wedi ennill Pencampwriaeth Ewrop, Pencampwriaeth Agored Prydain, Pencampwriaethau Cenedlaethol Prydain, a Brass in Concert ar sawl achlysur, a rhwng 2007 a 2023 y band hwn oedd yn y safle cyntaf ymhlith detholion y byd. Gallwch fwynhau cyfaredd y band hwn yn uniongyrchol wrth iddynt berfformio eu repertoire diweddaraf, gan apelio at bob chwaeth gerddorol a phob oedran.

Dyma eich cyfle i brofi cerddoriaeth band pres ar ei gorau. Grŵp o dros 16 o ferched talentog yw Bella Voce, sy'n perfformio caneuon o ystod eang o genres. Ar ôl perfformio gyda Max Boyce a Tri Tenor Cymru, mae ymddangosiadau Bella Voce ar y teledu wedi cynnwys recordio gyda Katherine Jenkins ar gyfer y BBC a Noson Lawen ar S4C. Maent wedi perfformio yn Neuadd Frenhinol Albert ac mewn cyngherddau gala yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi. 

Peidiwch â cholli'r noson ryfeddol hon o adloniant cerddorol.

Tocynnau | £22.50 & £20

Info Cyflym

  • Cwmni: The Rotary Club of Carmarthen Tywi
  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric Theatre - New Plan

Info Cyflym

  • Cwmni: The Rotary Club of Carmarthen Tywi
  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric Theatre - New Plan