The Three Musketeers | Lyric
Black RAT Productions a Sefydliad y Glowyr Coed Duon yn cyflwyno:
The Three Musketeers
All for one and fun for all!
Sioe gomedi newydd sbon wedi'i hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Richard Tunley. Mae'r tîm a gyflwynodd The Invisible Man a The Adventures of Sherlock Holmes yn ôl gyda fersiwn hwyliog gwych o antur 17eg ganrif Alexandre Dumas.
Dewch ar antur fyrlymus yng nghwmni Black RAT Productions, y cwmni sydd â hwyl yn y gwaed! Bydd cast egnïol o 4 actor yn chwarae aml ran yn y ddrama liwgar newydd yma sydd wedi’i hysbrydoli gan y nofel adnabyddus.
Ymunwch â’n harwyr – D'Artagnan, Athos, Porthos, Aramis – ar antur llawn brwydrau â chleddyfau, doniolwch pwy yw pwy, hwyl a sbri.
Fe gewch chi fwynhau hiwmor, egni a chwerthin lond eich bol.
Addas ar gyfer pobl 11 oed a hŷn
Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru
Tocynnau | £15.50 & £13.50
- 23 Hyd, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Black RAT Productions & Blackwood Miners’ Institute
- Categori: Drama
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
Info Cyflym
- Cwmni: Black RAT Productions & Blackwood Miners’ Institute
- Categori: Drama
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen