The Opera Boys | A Night at the Musicals

Mae The Opera Boys yn ôl gyda'u sioe hynod o lwyddiannus, A Night at the Musicals. Mae'r sioe wedi'i diweddaru ac yn cynnwys cadwyn o alawon o sioeau cerdd, perfformiadau unigol syfrdanol, ac ambell syrpréis! P'un a ydych yn hoff o sioeau cerdd llwyddiannus modern fel Mamma Mia, Hairspray a Jersey Boys, yn ffafrio'r clasuron gan rai fel Gershwin a Rodgers & Hammerstein, neu'n caru campweithiau fel Les Misérables, Phantom of the Opera a West Side Story, mae gan y sioe hon rywbeth i bawb ac mae'n berffaith ar gyfer pobl ifanc a phobl hŷn sy'n dwlu ar theatr gerddorol. 

Gyda threfniannau lleisiol hardd, harmonïau syfrdanol a hiwmor gwych, mae The Opera Boys wedi bod yn swyno cynulleidfaoedd ledled y byd gyda'u sioe unigryw sy'n cyfuno cerddoriaeth hardd, bwerus ac emosiynol gydag adloniant doniol, deniadol ac ysgafn ei naws. Hyfforddodd y bechgyn yn rhai o ysgolion gorau'r DU gan gynnwys yr Academi Gerdd Frenhinol, ac mae pob un ohonynt wedi dod yn berfformwyr hynod lwyddiannus. 

Rhyngddynt maent wedi perfformio prif rannau yn y West End yn Llundain ac ar Broadway yn Efrog Newydd. Maent wedi canu lleisiau cefndir i rai o sêr mwyaf y byd, gan gynnwys Russell Watson, Robbie Williams, Tom Jones ac Elton John, ac yn 2015 roedd un o'r bechgyn yn rhan o ymgais Gwlad Belg ar gyfer Cystadleuaeth The Eurovision Song Contest, gan berfformio i gynulleidfa fyd-eang o 200 miliwn, a dod yn 4ydd yn y gystadleuaeth! Gyda'i gilydd, mae'r bechgyn wedi perfformio mewn theatrau a neuaddau cyngerdd ledled y DU ac wedi teithio ledled y byd. Yn 2018 perfformiodd y bechgyn fel unawdwyr gyda'r National Symphony Orchestra. 

Maent wedi'u gwahodd i berfformio mewn nifer o ddigwyddiadau mawreddog, gan gynnwys dathliad pen-blwydd llong fordeithio enwocaf y byd yn 10 oed, llong deithwyr fawr Cunard, Queen Mary 2, a mordaith gyntaf llong fordeithio fwyaf P&O, Britannia, a lansiwyd gan Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.

***** “Spine tingling” - The Public Reviews 
***** “Such great voices” - Weekend Notes

Tocynnau | £24.50

Info Cyflym

  • Cwmni: ETM
  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: ETM
  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen