The Illegal Eagles

Gan ddathlu dros 50 mlynedd ers i'r band roc gwledig chwedlonol o'r arfordir gorllewinol 'The Eagles' ffurfio yn 1971, mae 'The Illegal Eagles' yn dychwelyd gyda'u Taith Desperado 2025 newydd, gan addo rhagor o'u doniau cerddorol rhagorol, sylw craff i fanylion a dawn berfformio anhygoel.

Mae'r sioe hon, sydd wedi cael canmoliaeth uchel, yn cynnwys y goreuon o glasuron 'The Eagles' gan gynnwys 'Hotel California', 'Desperado', 'Take It Easy' a 'Life In The Fast Lane' yn ogystal â mwy o ganeuon o albwm eiconig yr Eagles o 1973, Desperado.

Caiff fersiwn ddiweddaraf y sioe ei chynhyrchu fel erioed gan Phil Aldridge a'r aelodau disglair yw Tony Kiley (gynt o'r band a wnaeth gymaint o argraff yn yr 80au, The Blow Monkeys) ar y drymiau, llais a gitâr fas gan Trevor Newnham (Dr Hook), llais a gitarau gan Greg Webb, llais, gitarau ac allweddellau gan Mike Baker a llais, gitarau ac allweddellau gan Garreth Hicklin.

Mae Garreth, Greg, Trevor a Mike yn cyfleu arddull leisiol Henley, Walsh, Frey, Schmidt a Meisner mor rhwydd ac maent i gyd yn offerynwyr penigamp.

Mae The Illegal Eagles, sydd bellach yn eu 24ain flwyddyn ar yr hewl, yn gyfystyr â harmonïau clos iawn a sylw craff i fanylion. Ar ôl gwneud nifer o deithiau a gafodd ganmoliaeth uchel yn y DU ac yn Ewrop, mae The Illegal Eagles wedi sefydlu eu hunain nid yn unig fel dathliad penigamp o The Eagles, ond hefyd fel un o'r sioeau mwyaf dilys a thalentog yn y byd.

Info Cyflym

  • Cwmni: Phil Aldridge Productions Ltd
  • Categori: Music
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Phil Aldridge Productions Ltd
  • Categori: Music
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli