The Fureys
Ymunwch â ni am noson gydag enwogion cerddoriaeth a chaneuon Gwyddelig, The Fureys.Bydd The Fureys, sy'n enwog am eu caneuon gwych fel, I Will Love You, When You Were Sweet 16, The Green Fields of France, The Old Man’, Red Rose Café, From Clare To Here, Her Father Didn’t Like Me Anyway, Leaving Nancy, Steal Away, a llawer mwy, ar daith unwaith eto.
Gadawodd Eddie Furey, y brawd hynaf, gartref yn 1966 a theithiodd i'r Alban adeg yr adfywiad gwerin mawr lle gwnaeth ef a'i frawd, Finbar, gyfarfod a rhannu llety gyda chantorion gwerin megis Billy Connolly, Gerry Rafferty, Tam Harvey ac Alex Campbell cyn iddynt ddod yn enwog.
Yn 1972, ysgrifennodd Gerry Rafferty, Her Father Didn’t Like Me Anyway i Eddie. Gwnaeth y cyflwynydd BBC Radio 1, y diweddar John Peel y gân ei sengl o'r flwyddyn.
Mae'r Fureys yn arbennig o falch o'u llwyddiant yn siartiau Prydain, gyda chaneuon fel I Will Love You a When You Were Sweet Sixteen, a helpodd yn ei dro i ddod â cherddoriaeth werin a thraddodiadol Gwyddelig i gynulleidfa hollol newydd. Perfformiodd y band am y tro cyntaf yn Top of the Pops yn 1981. Mae eu caneuon emosiynol yn parhau i sbarduno llawer o emosiynau, dagrau a chwerthin, tristwch a llawenydd.
Tocynnau | £26.50
- 28 Maw, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: McCadden Management
- Categori: Music
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
Info Cyflym
- Cwmni: McCadden Management
- Categori: Music
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen