Swan Lake

Swan Lake – Y bale rhamantus gorau erioed 

Ar ôl taith lwyddiannus y llynedd, mae Crown Ballet yn dychwelyd eleni i'r DU i'ch hudo â'r cynhyrchiad hyfryd o Swan Lake. 

Mae Crown Ballet yn cyflwyno'r bale enwocaf erioed. Swan Lake yw un o weithiau gorau Tchaikovsky, sy'n cynnwys rhai o'r darnau cerddoriaeth mwyaf cofiadwy a'r dawnsiau mwyaf trawiadol ym myd bale. 

Mae Swan Lake yn stori am ddwy fenyw ifanc, Odette ac Odilie, sydd mor syfrdanol o debyg i'w gilydd y gall rhywun gamgymryd y naill am y llall yn hawdd. 

Dyma chwedl rymus am ramant drasig lle mae tywysoges, sef Odette, yn cael ei throi'n alarch gan felltith ddieflig. Mae Tywysog Siegfried yn dod ar draws haid o elyrch wrth hela. Pan fydd un o'r elyrch yn troi'n fenyw ifanc hardd, mae'n cael ei swyno'n syth – a fydd ei gariad yn ddigon cryf i dorri'r hud cythreulig sydd wedi'i fwrw arni? 

Mae Swan Lake yn llawn dirgelwch a rhamant. Mae wedi cydio yn nychymyg cenedlaethau dros y blynyddoedd ac mae'n parhau i ddenu cynulleidfaoedd ar draws y byd, yr hen a'r ifanc fel ei gilydd. 

Dyma noson hyfryd allan a fydd yn gadael atgofion y byddwch yn eu trysori am amser hir wedi i'r llen olaf ddisgyn! 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.crown-ballet.co.uk

Tocynnau | £30.50, £28.50 & £21.50

Info Cyflym

  • Cwmni: Crown Ballet
  • Categori: Dance
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Crown Ballet
  • Categori: Dance
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen