Steptoe & Son LIVE!

Steptoe & Son YN FYW!

Go brin fod yr hen ddeuawd yma wrthi o hyd ar ôl yr holl amser, ond dyma nhw! Mae Albert yn hen ddyn budr o hyd, ac mae Harold mor ymhongar ag erioed.

Dewch i ymuno â Steptoe & Son ar gyfer yr holl gweryla doniol sydd gan ein pedair pennod glasurol i'w gynnig. Dewch i weld eich hoff eiliadau o gyfres deledu boblogaidd y BBC, yn cael eu perfformio i chi yn fyw ar lwyfan – ond gwnewch yn siŵr nad ydych chi'n camu mewn anrheg a adawyd gan Hercules y ceffyl ar eich ffordd i mewn...

Gwelwyd Steptoe & Son gyntaf ar ein sgriniau yn 1962, gan redeg am 8 cyfres a 57 pennod, a dod i ben yn 1974. Yn serennu oedd yr arbennig Harry H. Corbett a Wilfred Brambell, fel y tad a'r mab cynhennus a geisiai ymdopi â'u busnes a'i gilydd ar hyd y ffordd!
12+

Tocynnau | £18.50 (50 tocyn cyntaf £16.50)

Info Cyflym

  • Cwmni: Cattle Productions
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Cattle Productions
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen