Sexbomb! | Celebrating the Music of Sir Tom Jones

Am un noson yn unig, ymunwch â ni i ddathlu cyfraniad un o'r dynion mwyaf adnabyddus yn y sîn gerddoriaeth bop, Syr Tom Jones!

Dewch i wrando ar fand rhagorol yn perfformio rhai o ganeuon mwyaf eiconig Tom Jones am ddwy awr megis Sexbomb, Till, Green Green Grass of Home, I Who Have Nothing, Thunderball, Love Me Tonight, ac It's Not Unusual yn ogystal â chaneuon rhythm a melanganu y mae Tom yn mwynhau eu canu, Knock on Wood a Land of a Thousand Dances.

Yn fyw ar y llwyfan, dewch i weld dynwarediad arobryn a bortreadir gan yr unigryw Mr Andy Wood. Mae Andy wedi meithrin enw da iawn wrth ddiddanu'r rhai sy'n dwlu ar Syr Tom ledled y byd ers dros 35 mlynedd. Yn ogystal â threulio cyfnod yn ne Sbaen, lle perffeithiodd ei act Benidorm Tom, mae Andy wedi perfformio mewn digwyddiadau a gwyliau mawr yn y DU ac ar draws y byd.

Dewch i'r noson gyffrous hon i ddathlu cyfraniad Syr Tom Jones. 


Tocynnau | £29

Info Cyflym

  • Cwmni: Barr and Co
  • Categori: Music
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Barr and Co
  • Categori: Music
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli