Rude Science Live

Y sioe wyddoniaeth fwyaf drwg, doniol, ac afiach yn y byd.

Paratowch eich hun ar gyfer sioe newydd chwyldroadol, uwch-dechnoleg a ffrwydrol Stefan Gates o Gastronaut y BBC, sy'n llawn dop o styntiau gwyddoniaeth anhygoel. Ar yr wyneb mae'n bla o arbrofion afiach wedi'u cynllunio i swyno cynulleidfaoedd ifanc ond o dan y boned mae'n antur wych sy'n cael ei sbarduno gan y cwricwlwm, wedi'i chynllunio i ysbrydoli plant Prydain i ymddiddori'n barhaus mewn gwyddoniaeth.

Gallwch ddisgwyl pen-olau enfawr, peiriannau taro cnecs, smwt-goctels, clustogau cneci enfawr, tân gwyllt wedi'u pweru gan bi-pi a mannequins yn llawn cwyr clust yn y dathliad hwn o'r wyddoniaeth gorfforol hynod ddiddorol sy'n hanfodol i fywyd. Mae'r sioe yn trawsnewid bioleg, ffiseg a chemeg gymhleth yn ddoniolwch addysgol gan ddefnyddio styntiau enwog Stef a gwybodaeth gwyddoniaeth hollgynhwysfawr.

Mae Stefan Gates yn gyflwynydd 20 cyfres deledu (gan gynnwys pump ar gyfer CBBC sy'n cynnwys Incredible Edibles, Gastrolab a Gastronuts) sydd wedi ennill gwobrau lu ac yn awdur STEM 12 llyfr (gan gynnwys Fartology a Science You Can Eat), ac mae'n enwog yn rhyngwladol am ei sioeau llwyfan clyfar, gwefreiddiol, hynod addysgol sy'n ysbrydoli cynulleidfaoedd ifanc i garu gwyddoniaeth.

Canllaw oed: 6+

Tocynnau | £17.50, £15.50 & Tocyn Teulu £58

Info Cyflym

  • Cwmni: CrossPlatorm Tv Ltd
  • Categori: Family
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: CrossPlatorm Tv Ltd
  • Categori: Family
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen