Robin Ince: The Universe and the Neurodiverse - now with music!
Noson o straeon, barddoniaeth a cherddoriaeth.
Bydd Robin Ince yn dod â'i sioe newydd The Universe and The Neurodiverse i Gymru, gyda cherddoriaeth fyw ychwanegol gan Rachel Taylor-Beales.
Mae Robin Ince yn fwyaf adnabyddus fel cyd-gyflwynydd y sioe wyddoniaeth arobryn Radio 4, The Infinite Monkey Cage. Yn ddiweddar, ysgrifennodd a chyflwynodd Writing the Universe, a chyfres stand-yp unigol â phedair rhan, Reality Tunnel. Mae wedi perfformio ar draws y byd o Reyjavik i Dunedin, LA i Sophia, ac wedi ennill llawer o wobrau am ei sioeau gan gynnwys gwobr 'Outstanding Achievement in Comedy' Time Out. Mae ei lyfrau'n cynnwys I'm a Joke and So Are You, Bibliomaniac, The Importance of Being Interested ac yn 2022 enillodd 'Awdur y Flwyddyn' gan Gymdeithas y Gwerthwyr Llyfrau. Mae ei lyfr nesaf yn ymwneud â niwrowahaniaeth: Normally Weird…Weirdly Normal, ac yna ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, Ice Cream for a Broken Tooth.
Mae Rachel Taylor-Beales yn gantores-gyfansoddwraig ac yn canu sawl offeryn. Mae ei cherddoriaeth yn gyfuniad o Americana, alt-gwerin, blues, a jazz. Mae gan Rachel, sydd wedi derbyn canmoliaeth uchel gan Bob Harris o BBC Radio 2, frand unigryw o felancoli hardd sy'n cael ei ysbrydoli gan lên gwerin ochr yn ochr â'i bywyd ei hun, yn aml yn eiriol dros faterion cyfiawnder cymdeithasol ac ecoleg. Enwebwyd ei halbwm diweddaraf, Out Of This Frame, fel albwm gorau 2022 gan Folk Radio UK. Ochr yn ochr â cherddoriaeth mae Rachel hefyd yn hoff iawn o baentio, ysgrifennu a chreu theatr. Mae ei drama ddiweddaraf, Bag For Life wedi cael ei dewis yn ddiweddar ar gyfer ei chynhyrchu gan gwmni Theatr Fluellen o Abertawe.
Tocynnau | £15.50 & £12.50
- 24 Ion, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Hushland Creative
- Categori: Other Artforms
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni
Info Cyflym
- Cwmni: Hushland Creative
- Categori: Other Artforms
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni