Queenz: Drag Me To The Disco!

Queenz – Drag me to the Disco O fwrlwm y West End yn Llundain, ac yn dilyn eu perfformiad cyntaf anhygoel yn Las Vegas, mae'r Queenz beiddgar a bendigedig hyn yn cyflwyno'u sioe ddrag wefreiddiol ac yn canu'n fyw. Byddwch yn barod am noson o ddawnsio, canu a drag a fydd yn dathlu enwogion y byd pop a disgo drwy'r degawdau.

Mae Drag Me To The Disco nid yn unig yn llawn sbloets a glamor, mae hefyd yn llawn cynhesrwydd, dawn ddiamheuol a lleisiau pwerus a thrawiadol. Byddwch yn barod i forio canu, chwerthin llond eich bol a cholli ambell ddeigryn efallai wrth i'r breninesau hyn eich difyrru mewn sioe sy'n llawn emosiwn ac egni. Mae'r sioe syfrdanol hon, sy'n cynnwys mwy o secwinau a rhyfeddodau nag erioed o'r blaen, yn un na ddylid ei cholli.

Hwyl sy'n llawn direidi. Dawn ddiddiwedd. Ac, wrth gwrs, DIFAS DISGO!

“Queenz The Show has everything you could want from a drag show” - Edinburgh Live

“High camp comic silliness with genuine heart” - Culture Fix ★★★★★

“One of the best shows I have ever seen!” - Gay Times

Canllaw oed 14+
Tocynnau | £26.50

Info Cyflym

  • Cwmni: David Michael Productions
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: David Michael Productions
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli