O Little Town of Aberystwyth | Ffwrnes

"Plant yn canu, seirenau’r heddlu’n seinio, cnau castan yn cael eu dwyn o dân amddifad .... ac mewn stryd gefn frwnt yn yr ardal Dsieineaidd mae Siôn Corn un o’r siopau mawr yn gorwedd yn farw mewn pwll o’i waed ei hun - Aberystwyth adeg y Nadolig." 

Mae Brenhines Denmarc yn llogi’r unig dditectif preifat yng Ngheredigion, Louie Knight. Mewn pum niwrnod, gyda’i bartner ffyddlon Calamity, rhaid iddo ddatrys yr achos - os nad yw’n llwyddo, ni fydd Nadolig, dim anrhegion i’r plant a dim cyngerdd ar gyfer y pengwiniaid sy’n hoffi canu carolau .... 

Yn dilyn llwyddiant Aberystwyth Mon Amour yn 2016, mae Lighthouse Theatre yn dychwelyd gyda’r perfformiad cyntaf ar y llwyfan o nofel noir Gymreig arall gan Malcolm Pryce. Gyda Llinos Daniel yn cyfarwyddo a gyda cherddoriaeth wreiddiol gan Kieran Bailey, dyma gynhyrchiad ar y cyd rhwng Canolfannau Celfyddydau Pontardawe ac Aberystwyth gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru a Thŷ Cerdd. 

Oed: 12+

Tocynnau | £15.50 & £13.50

Info Cyflym

  • Cwmni: Lighthouse Theatre
  • Categori: Drama
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Lighthouse Theatre
  • Categori: Drama
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli