Million Dollar Men
Yn ôl y rhagolygon, 'It's Raining Men’! Mae pethau'n poethi, ac nid y tymheredd yn unig! Mae'r "Million Dollar Men" yma i ddod â lliw i'ch bochau gyda pherfformiad anhygoel sy'n sicr o wneud i'r ystafell droi'n chwilboeth. Dim twyllo, dim ond llawer o bryfocio bendigedig... Gan roi yn union yr hyn rydych yn chwilio amdano!
Byddwch yn barod am noson o gyffro wrth ichi wylio sioe ddawns hwyliog gan ddynion a fydd yn sicr o gyflymu curiad eich calon a'ch gadael yn fyr eich gwynt. Gallwch ddisgwyl dawnsio diddiwedd i ganeuon poblogaidd y 90au, y 00au ac R'n'B, rhyngweithio chwareus, ac amrywiaeth eang o symudiadau rhywiol gan ein dynion talentog.
Million Dollar Men yw'r cyfuniad perffaith o adloniant gwefreiddiol, lle mae byd ffantasi a realiti yn dod ynghyd, gan roi cyfle ichi wireddu eich breuddwydion gwylltaf.
Rydych chi'n haeddu profiad tanbaid, felly rhowch gorau i'r llygadu ac ewch ati i archebu tocynnau nawr!
18+
Tocynnau | Premiwm £30, Safonol £27
- 13 Rhag, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: RED Entertainment
- Categori: General Entertainment
- Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym
- Cwmni: RED Entertainment
- Categori: General Entertainment
- Theatr: Ffwrnes Llanelli
