John Barrowman | Laid Bare

John Barrowman, Laid Bare yw ei sioe newydd, ac nid yw'n dal dim nôl wrth drafod ei angerdd am fywyd a'i gariad diffuant at stori a chân. 

Yn Laid Bare, mae pob cân, boed yn glasur Broadway neu'n un gyfoes, yn dangos arddull ddihafal John a'i lais trawiadol. Mae ei straeon a'i hanesion personol yn llawn o'i ffraethineb brwd Albanaidd, a'i egni heintus. 

Yn fwyaf adnabyddus am chwarae Capten Jack Harkness yn Doctor Who a Torchwood, Malcolm Merlyn yn Arrow a'i sioeau adloniant niferus ar nos Sadwrn, bu John yn feirniad ar Dancing On Ice, Any Dream Will Do, How Do You Solve a Problem Like Maria, a I'd Do Anything. Ymddangosodd ar I'm a Celebrity... Get Me Out of Here a Strictly Come Dancing. 

Mae ei rolau cerddorol helaeth yn y West End a Broadway yn cynnwys rhannau blaenllaw yn Anything Goes, Sunset Boulevard, Chicago, Evita, Miss Saigon, Company, Beauty and the Beast a Phantom of the Opera. 

Mae Laid Bare yn fwy na chyngerdd - mae'n ddathliad o gelfyddyd, angerdd, a'r llawenydd a berthyn i gerddoriaeth. Dyma ichi sioe fydd yn aros yn hir yn y cof.

Tocynnau | £40, £35, £30

Info Cyflym

  • Cwmni: RED Entertainment
  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: RED Entertainment
  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen