Jive Talkin'
Y sioe deyrnged wreiddiol a gorau i'r Bee Gees, a'r UNIG sioe deyrnged i'r Bee Gees sydd wedi perfformio gyda'r Bee Gees gwreiddiol eu hun! Yn 1997 perfformiodd Gary a Darren o Jive Talkin YN FYW ar HEART FM gyda'r BEE GEES gan dderbyn canmoliaeth fawr gan Maurice a Barry Gibb.
Yn yr un modd â'r Bee Gees gwreiddiol, mae Jive Talkin' yn grŵp teuluol - mae’r brodyr Gary a Darren Simmons yn ymgymryd â rolau Barry a Maurice Gibb, ac ymunodd mab Darren, sef Jack, â'r grŵp yn 2014 i ymgymryd â rôl Robin Gibb. Maen nhw'n cael eu cefnogi'n gerddorol gan fand pedwar darn gyda phrif gitâr, ffidil, sielo a drymiau, i sicrhau bod pob nodyn ym mhob cân yn berffaith!
Os ydych chi am gael profiad gwirioneddol anhygoel a chyfle i glywed holl ganeuon poblogaidd y Bee Gees: Tragedy, Night Fever, Massachusetts, Stayin Alive, Jive Talkin, ac ati, mewn sioe 2 awr llawn cerddoriaeth a harmoni lleisiol, dyma noson na ddylid ei cholli!
Tocynnau | £25.50
- 13 Medi, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: UK Theatre Shows
- Categori: Music
- Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym
- Cwmni: UK Theatre Shows
- Categori: Music
- Theatr: Ffwrnes Llanelli
