Jesus Christ Superstar
Mae Jesus Christ Superstar yn opera roc wefreiddiol sy'n ailddychmygu dyddiau olaf Iesu Grist trwy gerddoriaeth bwerus. Gyda sgôr arloesol ac eiconig gan Andrew Lloyd Webber a Tim Rice, mae'r sioe gerdd wefreiddiol hon yn archwilio'r themâu cariad, brad ac aberth.
Mae'r sioe yn cynnwys caneuon bythgofiadwy fel 'I Don't Know How to Love Him', 'Superstar,' a 'Gethsemane', ac mae Jesus Christ Superstar yn cyfuno lleisiau anhygoel, drama ddwys, stori rymus a pherfformiadau cyffrous i greu profiad theatrig bythgofiadwy. Mae Jesus Christ Superstar, sy'n glasur oesol, yn sioe y dylai pawb sy'n dwlu ar gerddoriaeth ei gwylio ac unrhyw un sy'n crefu sioe wych sy'n procio'r meddwl ac yn apelio at wahanol genedlaethau.
Mae Eclipse Productions yn gwmni cyffrous a sefydlwyd yn 2023. Mae'r cwmni'n angerddol am greu perfformiadau theatr amatur o'r safon uchaf yn ogystal â chefnogi aelodau i gyrraedd eu potensial llawn mewn amgylchedd creadigol, cyfeillgar a hwyliog.
Tocynnau | £16
- 19 Meh, 19:00 ARCHEBWCH NAWR
- 20 Meh, 19:00 ARCHEBWCH NAWR
- 21 Meh, 14:00 ARCHEBWCH NAWR
- 21 Meh, 19:00 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Eclipse Productions
- Categori: Musical Theatre
- Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym
- Cwmni: Eclipse Productions
- Categori: Musical Theatre
- Theatr: Ffwrnes Llanelli
