Guys and Dolls JR.

Mae Guys and Dolls JR. yn addasiad o'r sioe a ystyrir gan lawer fel y comedi cerddorol perffaith. Rhedodd y sioe o'r un enw am 1,200 o berfformiadau pan agorodd ar Broadway ym 1950 ac enillodd nifer o Wobrau Tony, gan gynnwys y Sioe Gerdd Orau. Mae sgôr swnllyd, anfarwol a geiriau ffraeth Frank Loesser yn golygu bod Guys and Dolls JR. bob amser yn plesio'r torfeydd. 

Yn Ninas Efrog Newydd Damon Runyon, mae Guys and Dolls JR yn dilyn hynt y gamblwr, Nathan Detroit, wrth iddo geisio dod o hyd i'r arian i sefydlu'r gêm crap fwyaf yn y ddinas tra bod yr awdurdodau'n dynn wrth ei sodlau. Yn y cyfamser, mae ei gariad a'r berfformwraig clybiau nos, Adelaide yn galarnadu eu bod wedi dyweddïo am bedair blynedd ar ddeg heb erioed briodi. Mae Nathan yn troi at ei gyd-gamblwr, Sky Masterson ar gyfer yr arian, ond mae Sky yn mynd ar drywydd y genhades lem, Sarah Brown. 

Mae Guys a Dolls JR. yn mynd â ni o galon Times Square i gaffis Havana, ond yn y pen draw mae pawb yn diweddu lle maen nhw'n perthyn.

Tocynnau | £16 & £12

Info Cyflym

  • Cwmni: Stagecoach Theatre Arts Carmarthen
  • Categori: Musical Theatre
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Stagecoach Theatre Arts Carmarthen
  • Categori: Musical Theatre
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen