Giselle - Perfformiad Ymlaciedig | Relaxed Performance

Mae'r cwmni arloesol a llwyddiannus Ballet Cymru yn cyflwyno taith fythgofiadwy sy'n llawn angerdd, brad a maddeuant.

Mae dehongliad newydd sbon o'r bale llawn ysbrydion hwn yn adrodd stori drasig, ramantus merch ifanc o Gymru o'r enw Giselle, sy'n syrthio mewn cariad ond sy'n marw o dorcalon.

Bydd yn cynnwys sgôr glasurol wreiddiol a thrawiadol Adolphe Adam, coreograffi arloesol gan Darius James OBE ac Amy Doughty, gwisgoedd eithriadol a nodedig a thafluniadau fideo y gallwch ymgolli ynddynt.

Dewch i weld y cwmni eithriadol ac arloesol hwn sy'n cynnwys ensemble arbennig ac amrywiol o ddawnswyr disglair.

Mae Ballet Cymru yn gwmni bale teithiol rhyngwladol o Gymru, sydd wedi ymrwymo i gynhwysiant ac arloesi mewn dawns a bale clasurol, a'r safon uchaf o gydweithio.


Perfformiad Hamddenol: 31 Mai 3pm

Beth yw perfformiad hamddenol?

Mae perfformiadau hamddenol yn agored i bawb, ac wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer plant, pobl ifanc neu oedolion a allai fod ag anableddau, anghenion cymorth ychwanegol a'r rheiny sydd ar y sbectrwm awtistig.

Dyma beth y gallwch chi ei ddisgwyl o'r perfformiad hamddenol Giselle ar 31 Mai:

  • Awr o hyd, heb egwyl
  • Traethu dwyieithog
  • Dehongliad mewn iaith Makaton
  • Cyfle i gyfarfod a rhyngweithio â'r dawnswyr cyn ac ar ôl y perfformiad
  • Cerddoriaeth ac effeithiau sain tawelach
  • Awditoriwm golau
  • Gall aelodau o'r gynulleidfa wneud sŵn a symud o amgylch yr  awditoriwm yn ystod y perfformiad
  • Man tawel, cyfforddus i gael hoe 

Gweler y stori weledol ar gyfer Theatr y Ffwrnes yma


Disgrifiad Clywedol Wedi’I Recordio Ymlaen Llaw


Deiliad y ffotograff: Sian Trenberth Photography

Tocynnau | £18.50 | £14.50 | £44

Info Cyflym

  • Cwmni: Ballet Cymru
  • Categori: Dance
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Ballet Cymru
  • Categori: Dance
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli