Fleetwood Bac
**Nodwch, mae sioe hon yn digwydd yn Ebrill 2026**
Fleetwood Bac yw band teyrnged Fleetwood Mac cyntaf a gorau’r byd. Wedi'i gymeradwyo gan Mick Fleetwood ei hun, sa Fleetwood Bac yw'r unig deyrnged Mac i efelychu arlwy’r glasur 'Rumours'.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae Fleetwood Bac wedi derbyn adolygiadau gwych gan y wasg a chefnogwyr fel ei gilydd, gan ddiddanu cynulleidfaoedd cyn belled i ffwrdd â Dubai, St. Tropez, Ynysoedd y Cayman a Monte Carlo, ac yn ddiweddar gwerthwyd pob tocyn ar gyfer Theatr fyd-enwog Minack yng Nghernyw. Mae Fleetwood Bac hefyd wedi cael ei ddewis gan bapur newydd The Times fel un o 5 band teyrnged gorau’r DU, ochr yn ochr â The Bootleg Beatles, Bjorn Again a’r Counterfeit Stones. Ymhlith y cefnogwyr mae basydd gwreiddiol Mac a’r cofiannydd Bob Brunning, a ymunodd â’r band sawl gwaith ar y llwyfan, a bywgraffydd swyddogol Peter Green, Martin Celmins.
Mae sioe Fleetwood Bac yn canolbwyntio ar oes ‘Rumours’ y band – y pumed albwm sydd wedi gwerthu fwyaf erioed.
Mae hefyd yn cynnwys nifer o ganeuon o ddyddiau Peter Green, ynghyd â rhai o ganeuon unigol mwyaf Stevie, naill ai mewn sioe theatrig ddwy awr, sy’n cynnwys newid gwisgoedd ac adran acwstig, neu sioe Greatest Hits awr o hyd, wedi'i theilwra'n arbennig ar gyfer digwyddiadau corfforaethol.
Bydd y sioe yn cynnwys llawer o senglau mwyaf poblogaidd y band yn y DU a’r Unol Daleithiau gan gynnwys, Dreams, Don’t Stop, Go Your Own Way, You Make Loving Fun, Tusk, Gypsy, Everywhere, Oh Well, Rhiannon, Little Lies, Black Magic Woman, Seven Wonders, Say You Love Me, Big Love, Oh Diane, Stop Draggin’ My Heart Around, Albatross, Sara, Man Of The World, Hold Me, Green Manalishi, Need Your Love So Bad, The Chain , a llawer mwy.
Tocynnau | £23.50
- 4 Ebr, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Events for Wales
- Categori: Music
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym
- Cwmni: Events for Wales
- Categori: Music
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
