Dave Cottle Trio & Sarah Meek | 'Louis & Ella Show'

Mae'r Louis & Ella Music Show yn dathlu'r caneuon a recordiwyd gan Louis Armstrong ac Ella Fitzgerald gyda'r Oscar Peterson Quartet, ynghyd â repertoire enfawr o ganeuon a recordiwyd ac a berfformiwyd yn unigol a chydag ensembles eraill. Mae'r set yn llawn caneuon o'r Great American Songbook; o George Gershwin ac Irving Berlin, i Rodgers & Hart a Cole Porter. Ymunwch â ni am deyrnged gerddorol arbennig iawn i Louis ac Ella, ynghyd â rhai o drefniadau a chaneuon gwreiddiol y triawd eu hunain, a hynny yn arddull hudol Louis ac Ella. 

Sarah Meek: Llais 
Dave Cottle: Piano, trwmped a llais 
Alun Vaughan/Laurence Cottle/Cameron Saint : Bas 
Paul Smith/Tom Cottle/Euan Crawford-Mckee: Drymiau 

Mae Dave Cottle yn gerddor proffesiynol profiadol iawn. Ers 1995, Dave yw'r pianydd preswyl yng nghlwb jazz wythnosol hiraf y DU, Clwb Jazz Abertawe. Mae wedi cyfeilio i gannoedd o artistiaid Jazz o bedwar ban byd ac mae'n medru chwarae cerddoriaeth o lawer o arddulliau gwahanol. Mae Dave wedi bod yn Gyfarwyddwr Artistig yn Swansea Jazz ers 1995, gan drefnu'r rhaglen wythnosol o ddigwyddiadau yn ogystal â Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe, a gynhelir yn flynyddol ac a sefydlwyd gan Dave yn 2014. Fel cerddor sesiwn, mae Dave wedi gweithio gyda sioeau theatr a theithiol di-ri, yn ogystal â'i fand dawns ei hun, DC Party & Dance Band. 

Mae'r Louis & Ella Show yn gyfle i Dave ddangos ei feistrolaeth wrth ganu'r trwmped a'r piano ar yr un pryd gan dalu teyrnged i ddau o'r cerddorion jazz ddylanwadodd fwyaf arno: Louis Armstrong ac Oscar Peterson. 

Ers graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru â gradd Meistr mewn Llais Jazz, mae Sarah Meek wedi ennill enw iddi hi ei hun fel cantores jazz a sesiwn wych sydd â phersonoliaeth a phresenoldeb gwych ar lwyfan. Mae Sarah hefyd yn canu'r piano a'r gitâr ac yn Gyfarwyddwr Cerdd Côr Accordia, Caerdydd.


Tocynnau | £15.50

Info Cyflym

  • Cwmni: Dave Cottle Trio
  • Categori: Music
  • Theatr: Glowyr

Info Cyflym

  • Cwmni: Dave Cottle Trio
  • Categori: Music
  • Theatr: Glowyr