Daughter of Bala | Glowyr
Ar ôl taith gyntaf o amgylch Cymru, gan gynnwys sioeau lle gwerthwyd pob tocyn yn Theatr Glan yr Afon Casnewydd, Drill Hall Cas-gwent a Theatr Derek Williams yn y Bala, mae Cwmni Theatr Her Story unwaith eto yn falch o gyflwyno Daughter of Bala, hanes arwres Gymreig go iawn.
Wedi'i disgrifio gan feirniaid fel 'sioe na allwch ei cholli', mae Daughter of Bala yn croniclo hanes bywyd cyfareddol Betsi Cadwaladr, o'i magwraeth ddigon cyffredin yng Nghymru i'w hanturiaethau ledled y byd yn gwasanaethu, lle daeth hi ar draws cyd-Gymry yn y llefydd mwyaf annisgwyl yn y byd. A hithau yn ei chwedegau, yn groesi i bob disgwyl, cychwynnodd Betsi ar ei menter fwyaf eto, gan herio confensiynau a disgwyliadau ahwylio i'r Crimea i fod yn nyrs ar faes y gad. Ar hyd y daith,bu hi'n anghytuno â Florence Nightingale ei hun, ac mae'r gwrthdaro rhwng y ddwy bersonoliaeth gref wedi atseinio trwy goridorau hanes.
Paratowch i chwerthin, llefain, a chael eich ysgubo i ffwrdd wrth i ysbryd penderfynol Betsi ddisgleirio trwodd ym mhob golygfa. Drwy dapestri o ôl-fflachiadau a chyfweliadau ingol gyda'i bywgraffydd, mae stori Betsi yn datblygu gyda chyffro a dynoliaeth dyner, mewn sgript wych gan y dramodydd o Gymru, Adele Cordner.
Peidiwch â cholli'ch cyfle i brofi buddugoliaethau a threialon gwir arloeswraig. Mae Daughter of Bala yn cynnig profiad theatrig bythgofiadwy a fydd yn eich ysbrydoli ac yn codi eich calon.
Tocynnau | £15 & £12
- 13 Maw, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Her Story Theatre Company
- Categori: Drama
- Theatr: Glowyr
Info Cyflym
- Cwmni: Her Story Theatre Company
- Categori: Drama
- Theatr: Glowyr