Culhwch ac Olwen | Ffwrnes

Mae Culhwch yn caru Olwen er nad yw e wedi ei gweld hi erioed. Dyw Olwen erioed wedi clywed am Culhwch chwaith ac felly does ganddi ddim syniad bod Culhwch am ei phriodi. 
Ond dyw tad Olwen, y cawr blin Ysbyddaden Boncyrs ddim eisiau I Olwen briodi byth ta beth. Ond dyw Culhwch ddim yn gwybod hynny ac mae’n dechrau ar ei daith i ddod o hyd i ferch ei freuddwydion. 
Er mwyn ennill Olwen ma’ Mr Boncyrs yn dweud bod rhaid i Culwch wneud ambell ‘i dasg fach fel ymladd draig, dwyn crib y Twrch Trwyth ac yn waeth na dim gwneud dawns y glocsen yn ei bants! 
Beth alle fynd o’i le?! 

Mae Culhwch ac Olwen yn sioe ar gyfer ysgolion a theuluoedd ond wedi’i haddasu’n arbennig ar gyfer plant Blynyddoedd 1 i 7. 
1 awr 30 munud (egwyl o 10 munud).
Mae’r sioe yn cynnwys golau strobe.

Cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 0345 2263510 neu theatrau@sirgar.gov.uk i wirio argaeledd ac i gael archebion.

Tocynnau | £9.60

Info Cyflym

  • Cwmni: Cwmni Mega
  • Categori: Family
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Cwmni Mega
  • Categori: Family
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli